
Y Gweithdy Esblygu
Mae’r rhaglen Esblygu’n dechrau gyda gweithdy undydd am ddim a fydd yn eich galluogi i:
- Archwilio manteision mabwysiadu strategaeth amrywiaeth
- Gwneud y gorau o fanteision amrywiaeth i’ch busnes
- Deall effaith y Ddeddf Gydraddoldeb newydd
- Datblygu arferion gwaith mwy effeithiol
- Archwilio dulliau gweithio hyblyg a gweithio o bell
Datblygwyd y gweithdy i fynd i’r afael â’r materion hyn yng nghyd-destun sefyllfa economaidd Cymru ar hyn o bryd. Mae’n gyfle gwerthfawr i dreulio diwrnod gyda chydweithwyr proffesiynol yn archwilio’r gwahanol agweddau ar amrywiaeth a dysgu sut i wneud iddynt weithio i’ch sefydliad
|

