
Y Gwasanaeth Esblygu
Ar ôl y gweithdy, rydym yn cynnig pob math o gymorth sydd wedi’i deilwra’n benodol i’ch busnes ac sy’n cael ei ariannu gan Esblygu
Rydym ni’n cydnabod bod pob busnes yn unigryw, a dyma pam rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â chi gan gyfrannu ein harbenigedd i’ch helpu chi i gyflawni’ch amcanion busnes
Nod y rhaglen Esblygu yw helpu cyflogwyr Cymru i elwa a ffynnu trwy ddefnyddio arferion gweithio blaengar.
Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn ni’n eich helpu i greu strategaeth ar gyfer ffyrdd modern, arloesol o weithio. Rydym ni’n cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod chi a’ch sefydliad, a byddwn yn eich helpu i greu cynllun gweithredu ar sail anghenion ac amcanion gwirioneddol eich busnes.
Rydym ni’n cynnig cyngor arbenigol diduedd ar sut i reoli gweithlu a chwsmeriaid amrywiol er mwyn sicrhau’r fantais fwyaf bosibl i’ch busnes
Gallwn eich helpu i greu strategaeth amrywiaeth sy’n amlinellu camau gweithredu syml a chost effeithiol i:
- wella’ch amgylchedd gweithio
- helpu’r bobl rydych chi eisoes yn eu cyflogi i berfformio ar eu gorau
- cynyddu’ch cwsmeriaid
- gweithio’n fwy effeithlon a chynhyrchiol
- gwella’ch enw da corfforaethol a dod yn gyflogwr delfrydol

