X

Y Fonesig Tanni Grey-Thompson

Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth

Y Fonesig Tanni Grey-Thompson
Mabolgampwr Cymraeg/Cyflwynwr Teledu

‘Mae’n rhaid i mi gael hyder yn fy ngallu fy hun
pan fod eraill yn ceisio gosod cyfyngiadau arno’

“Mae bod adref gyda fy nheulu yn fy ysbrydoli fwyaf.  Pan fod gennych fywyd cartref a gwaith prysur, mae’n anochel fod  rhaid i chi gyfaddawdu ond mae’n bwysig i fwynhau'r amser sydd gennych adref ac ymlacio.

Mae bod yn fwy na disgwyliadau pobl yn broffesiynol wastad wedi bod yn ffynhonnell  o ysbrydoliaeth mawr i mi.  Hyd yn oed heddiw rwy’n wynebu agweddau negyddol gan bobl eraill, sydd eisiau gosod cyfyngiad arnaf.

I oresgyn hyn, mae’n rhaid i mi eu hanwybyddu a chael hyder yn fy hun. Mae fy ngŵr yn gefnogol iawn ohonof yn y cyd-destun hwn.  Mae yna nifer o bobl sydd yn fy ysbrydoli yn bersonol ac yn broffesiynol, gan gynnwys Glenys Kinnock.

Mae hi wedi gwneud cymaint o waith gwerthfawr dros hawliau menywod ac wrth geisio diddymu tlodi byd eang.

Yn aml mae gwragedd gwleidyddion yn cael eu trin fel ychwanegiad deniadol ond mae nifer yn fenywod pwerus ac ysbrydoledig yn eu rhinwedd eu hun.”