X

Carers Week

Wythnos y Cynhalwyr 2010 (14-20 Mehefin)

Gall pobl sy’n gofalu barhau i weithio...

Mae amcangyfrif o 350,000 o bobl yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl wrth ofalu am aelodau sâl, methedig neu anabl o’u teulu, a gyda disgwyliad einioes ar gynnydd ynghyd â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’r ffigwr hwn yn mynd i godi

Yn anochel, bydd hyn yn effeithio ar y boblogaeth sy’n gweithio, gyda nifer mwy yn ymgymryd â dyletswyddau gofal tymor byr neu hir y tu allan i’r gwaith.  Mae Chwarae Teg, y sefydliad sy’n cefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn credu fod mabwysiadu arferion gweithio hyblyg yn cynnig ateb ymarferol a phrofedig sy’n galluogi nifer o weithwyr i ymgymryd â’r dyletswyddau gofal hyn, wrth barhau i fedru gweithio yn effeithiol ar gyfer eu cyflogwyr.

Esbonia Bev Pold, Rheolydd Polisi Chwarae Teg

“Mae Chwarae Teg yn amcangyfrif ar unrhyw gyfnod penodol fod rhwng 10 a 15% o’n tîm yn ymgymryd â dyletswyddau gofal. Gan fod gennym bolisi gweithio hyblyg eisoes, mae’n bosib cyflawni’r cyfrifoldebau yma tra ar yr un pryd sicrhau fod y swydd yn cael ei chyflawni.  O’m mhrofiad fy hun, mae fy chwaer a minnau yn rhannu'r gofal am ein mam sy’n dioddef o Alzheimers ac mae cynllun gweithio hyblyg Chwarae Teg yn golygu y gallaf weithio o gartref pan fo angen, rheoli fy amser yn fwy effeithiol - a chadw ar ben fy ngwaith.”

Esbonia Bev ymhellach

“ Mae polisïau gweithio hyblyg yn galluogi staff i ymgymryd â’i dyletswyddau gofal ac yn helpu i fagu ewyllys da yn y gweithle ac mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gweithwyr ar adeg sy’n gallu bod yn bwysau mawr yn eu bywydau.  Wrth wybod fod nifer mwy o bobl yn mynd i ymgymryd â dyletswyddau gofal yn y dyfodol, mae’n gwneud synnwyr i gyflogwyr, lle bo’n bosib, gyflwyno polisïau gweithio hyblyg i gefnogi hyn.  Mae’n bleser gennyf trwy ein prosiect Cenedl Hyblyg sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru fedru cynnig cefnogaeth bwysig i fusnesau  yn ardal Cydgyfeirio Cymru i helpu iddynt gyflwyno arferion gweithio hyblyg effeithiol, wrth barhau i gyflawni anghenion y busnes, ac rwy’n annog unrhyw fusnes i ymweld ag agilenation.co.uk i ddysgu rhagor.” 

Mae’r gwaith a chyfraniad gwerthfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud yn cael ei gydnabod yn ystod Wythnos y Cynhalwyr (14 - 20 Mehefin 2010), thema’r wythnos yw ‘Fy mywyd fy hun’.

Dywedodd Roz Willamson, Cyfarwyddydd Cynhalwyr Cymru

“Mae Wythnos y Cynhalwyr yn ein galluogi i amlygu rhai o’r storiâu anhygoel sydd gan ofalwyr a dangos ei bod yn bosib mwynhau bywyd eich hunan hyd yn oed gyda chyfrifoldebau gofal, ac mae arferion y gweithle megis gweithio hyblyg yn ffordd wych i helpu gofalwyr i reoli eu cydbwyso bywyd a gwaith er lles i bawb”. 

linciau a Information

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag Wythnos y Cynhalwyr yn: