X

Womenspire

Mae Chwarae Teg yn cyhoeddi ymgyrch ‘Womenspire’ fel rhan o brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg ~ y sgwrs fwyaf ynglŷn â beth sy’n ysbrydoli menywod yng Nghymru

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod (Mawrth 8) fe ddathlom lwyddiannau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol

Hayley Dunne - Ar  'Radio Cardiff' gyda’r cyflwynydd Steve Johnson, yn siarad am Womenspire

Hayley Dunne - Ar  'Radio Cardiff' gyda’r cyflwynydd Steve Johnson, yn siarad am Womenspire

Wrth i ni ystyried menywod ysbrydoledig o hanes mae prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg yn cymryd y cyfle i ddathlu pethau ysbrydoledig sydd wedi helpu i yrru menywod i gyflawni eu potensial bob diwrnod.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hymgyrch ‘Womenspire’, sydd wedi ei gynllunio i annog menywod Cymru i siarad am y pethau sydd wedi eu hysbrydoli hwy yn eu bywydau bob dydd.

Boed yn lleoliad, person, barddoniaeth, cân neu ddarlun arbennig, mae pob un ohonom yn cael ysbrydoliaeth o lefydd personol dros ben ac rydym eisiau dechrau sgwrs ledled y wlad ynglŷn â’r cyfoeth o ysbrydoliaeth sydd o’n hamgylch.

Sut bynnag y dymunwch gymryd rhan, o anfon ychydig frawddegau atom i lun, cymrwch yr amser i ystyried y pethau mewn bywyd - mawr a bach - sydd yn eich ysbrydoli chi a menywod eraill ar draws Cymru.

Digwyddiad ‘Menywod yn Ysbrydoli Menywod’

Gallwch hefyd ddarllen am ein digwyddiad cyffrous ‘Menywod yn Ysbrydoli Menywod’, a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod (Mawrth 8) trwy glicio yma

E-bostiwch ni yn womenspire@agilenation.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn dod i ddigwyddiadau yn y dyfodol