Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Sut rydym ni’n cael ein hariannuWales European Funding Office, WEFO - Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, WEFO

Caiff prosiect Cenedl Hyblyg ei
gyflawni trwy ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, ac arian cyfatebol wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru

Ariennir y prosiect am ei fod yn datblygu ‘cydraddoldeb rhywiol mewn cyflogaeth’, sef Trydedd Thema Trydedd Blaenoriaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Bydd y prosiect Cenedl Hyblyg yn darparu gwerth £12.5 miliwn o wasanaethau gan ddefnyddio arian yr ESF a Llywodraeth Cymru

Beth yw Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd?

Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yw’r arian sydd ar gael i aelod-wladwriaethau’r UE, er mwyn helpu’r gwladwriaethau hyn i hybu cynhyrchiant economaidd, creu swyddi cynaliadwy ac annog twf.

Bydd y swm o arian sydd ar gael yn dibynnu ar ffyniant cymharol yr aelod-wladwriaeth, ac fel arfer, mae’r Cronfeydd Strwythurol Economaidd yn targedu’r rhanbarthau sydd â ffyniant economaidd a chyfoeth cymharol is na chyfartaledd Ewrop

Caiff y Cronfeydd Strwythurol Economaidd eu dyfarnu mewn rowndiau sy’n para saith mlynedd. Mae Cenedl Hyblyg yn rhan o raglen 2007 i 2013

Sut mae’r Cronfeydd Strwythurol yn gweithio yng Nghymru?

Yng Nghymru, caiff yr holl Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd eu rheoli gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae WEFO’n rhan o Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrifol am ddyfarnu arian a goruchwylio a gwerthuso gwerth £3.8 biliwn o brosiectau.

Mae rhaglen 2007 i 2013 yn canolbwyntio ar greu swyddi cynaliadwy a thwf, er mwyn sicrhau manteision i bobl, busnesau, cymunedau ac amgylchedd Cymru

Yn ystod cyfnod y rhaglen, sef 2007–2013, gall Cymru gael cymorth gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am dair math o raglen:

  • Cydgyfeirio ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd
  • Cystadleurwydd a chyflogaeth ranbarthol ledled Dwyrain Cymru
  • Cydweithredu tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen drawsffiniol Cymru-Iwerddon

Ariennir Cenedl Hyblyg fel rhan o’r rhaglen Gydgyfeirio.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn darparu arian i brosiectau sy’n ceisio codi lefel sgiliau gweithlu Cymru. Mae rhai prosiectau yn gweithio gyda phobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, neu y mae eu swyddi wedi’u dileu.

Mae rhai prosiectau yn gweithio gyda phobl sydd â swydd eisoes ond a fyddai’n elwa ar gael sgiliau newydd i’w helpu i gael swydd fwy gynaliadwy sy’n talu’n well.

Mae Cenedl Hyblyg yn gweithio gyda menywod a chyflogwyr i helpu i gynyddu gwybodaeth, sgiliau a chynaliadwyedd busnesau Cymru a’r bobl sy’n gweithio iddynt.

Mae Chwarae Teg yn elusen gofrestredig hefyd, a gallwch ddarllen mwy am ein gwaith ar ein gwefan www.cymraeg.chwaraeteg.com