X

Hayley Dunne, Rheolwr Prosiect, Cenedl Hyblyg

Sut mae amrywiaeth yn gweithio
ar gyfer busnes

Manteision amrywiaeth

  • Mwy o gyfle i ennill busnes newydd
  • Estyn eich cronfa o gwsmeriaid
  • Cwsmeriaid yn cael gwell gwasanaethau
  • Gwella’ch enw da am arfer gorau
  • Mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd
  • Gwella cymhelliant staff
  • Llai o absenoldebau a throsiant staff
  • Y gallu i recriwtio o ddewis ehangach o bobl ddawnus
Gan fod pob un o’r rhain yn fanteision busnes gwahanol, wrth reswm, hoffech eu gweld i gyd yn digwydd yn eich busnes

Y newyddion da yw nad cwestiwn damcaniaethol yw hwn, oherwydd mae’n bosibl i fusnesau elwa ar yr holl fanteision hyn. Wrth gwrs mae i ba raddau y gallai’r manteision hyn effeithio ar fusnes yn dibynnu neu’n gallu dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau fel maint y busnes a’r sector.

Fodd bynnag, un o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio ar allu busnes i fanteisio ar y buddion hyn yw eu parodrwydd i goleddu’r hyn sy’n eu symbylu.

Mae’n siŵr y byddwch yn gofyn beth yw’r un peth a all eich helpu i sicrhau’r manteision hyn i’ch busnes. Wel, mae’n debyg y byddwch wedi clywed amdano eisoes, ac er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, mae’n siŵr y bydd gennych bolisi ar ei gyfer. Ond, ar yr un pryd, efallai nad oes neb wedi dangos i chi sut y gall y manteision busnes amrywiol hyn ddod yn wir pan gaiff y strategaeth hon ei roi ar waith yn effeithiol – sef, amrywiaeth yn y gweithle.

Efallai ei bod hi’n anodd credu y gallai amrywiaeth wireddu’r holl fuddion hyn, yn arbennig gan ei fod yn gallu cael ei gamddeall a’i ystyried fel dim mwy na rhwymedigaeth gyfreithiol i gefnogi hawliau gweithwyr.

Felly, dyma enghraifft o sut y gall mabwysiadu strategaeth amrywiaeth effeithiol helpu i wneud busnes yn wirioneddol lwyddiannus. Y peth cyntaf yw deall bod pawb yn wahanol.

Heb strategaeth amrywiaeth effeithiol, ni fydd gweithwyr yn gwybod barn cyflogwr ar y pwnc, a gallai hyn gael effaith negyddol ar y busnes a’i weithwyr.

Pe bai pob gweithiwr yn deall ac yn parchu pwysigrwydd amrywiaeth, byddai’r amgylchedd gwaith yn fwy cytûn a chynhyrchiol. Bydd hyn yn cefnogi hawliau unigolion yn y gwaith, waeth beth yw eu credoau, rhyw, oedran, rhywedd neu anabledd. Yn bwysicach fyth, mae hyn hefyd yn berthnasol o ran safbwyntiau cwsmeriaid sy’n codi, neu sy’n gallu codi yn sgil y ffordd y mae’r busnes wedi eu trin.

Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i gael gafael ar nwyddau a chyflenwyr, ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad fod gan nifer o gwmnïau mawr wefannau i ddangos eu hymrwymiad i amrywiaeth. Mae hyn yn eu helpu i gael eu gweld fel cyflogwyr arfer gorau ac yn helpu i ehangu’r garfan o ddarpar weithwyr talentog – wedi’r cyfan, onid yw pawb am weithio i gyflogwr da? Mae hefyd yn dangos i ddarpar gwsmeriaid bod y busnes yn foesegol ac yn un da i fasnachu ag ef.

Y newyddion da o ran amrywiaeth yw nad oes angen gwario llawer o arian ar ddatblygu strategaeth effeithiol. Y gost fwyaf yw’r ymrwymiad amser a roddwch i ddysgu am y maes ac i ddatblygu strategaeth sy’n briodol i’ch busnes.

Mae’r newyddion hyd yn oed yn well i fusnesau bach a chanolig yn ardal gydgyfeirio Cymru, gan fod y rhaglen Esblygu (sy’n rhan o brosiect Cenedl Hyblyg £12.5 miliwn Chwarae Teg a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru) yn cynnig cyngor a chymorth diduedd yn rhad ac am ddim.

Bydd y rhaglen Esblygu’n dechrau gyda gweithdy undydd am ddim a fydd yn eich galluogi i:
  • archwilio’r manteision o fabwysiadu strategaeth amrywiaeth
  • manteisio i’r eithaf ar fuddion busnes amrywiaeth
  • deall effaith y Ddeddf Cydraddoldeb newydd
  • datblygu arferion gwaith mwy effeithiol
  • archwilio gweithio’n hyblyg ac o bell
Ar ôl y gweithdy, byddwn yn cynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i addasu i’ch busnes. Gallwn eich helpu i greu strategaeth amrywiaeth sy’n nodi camau cost effeithiol o ran:
  • gwella’ch amgylchedd gwaith
  • sicrhau’r perfformiad gorau gan y staff
  • estyn eich cronfa o gwsmeriaid
  • gweithio’n fwy effeithlon a chynhyrchiol
  • gwella’ch enw da corfforaethol a dod yn gyflogwr delfrydol
Yn ogystal â hyn, os teimlwch fod angen cyflwyno gweithio o bell fel rhan o’ch strategaeth amrywiaeth, mae’r rhaglen Esblygu’n cynnig cyngor a chymorth arbenigol a diduedd i’ch busnes.
I gael gwybod mwy am raglen Esblygu Cenedl Hyblyg, ewch i Cyflogwyr


Cyhoeddwyd ar: 22/9/2011