X

Sophie Hughes

Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth

Sophie Hughes
Cyd-sylfaenydd  Mazuma UK Ltd.

‘Mae fy nghar yn fy ysbrydoli i ~ dyma’r lle gorau i feddwl’

“Mae gwneud arian yn fy ysbrydoli, gan ei fod yn golygu y gallaf dalu fy morgais i gyd a mwynhau mwy o incwm gwario.

Rwyf wastad wedi eisiau rhedeg fy musnes fy hun. Dewisais ddilyn gyrfa mewn cyfrifyddiaeth gan fod gennyf ddawn gyda rhifau ac yn feddyliwr rhesymegol.

Pan benderfynodd fy nghyd-sylfaenydd Lucy Cohen a fi sefydlu Mazuma, roedd yn rhaid i ni oresgyn y stereoteipio gan gyfrifwyr eraill a oedd yn tybio gan mae menywod ifanc oeddem ni, na fysem  ni yn medru bod  yn gymwys o gwbl.

Mewn rhai ffyrdd, mae cael ein gweld fel ifanc yn ein helpu i hyrwyddo Mazuma fel brand cyfeillgar, arloesol ac wedi ffocysu ar y cwsmer. Mae fy nghydbwysedd Bywyd a Gwaith ar hyn o bryd yn drwm ar y gwaith ond rwy’n hapus â hynny.

Mae fy nghar yn le lle rwy’n cael fy ysbrydoli gan mai dyma lle rwy’n cael y cyfle i feddwl a dod o hyd i syniadau.  Rwy’n falch iawn fod y cwmni wedi ymestyn mor sydyn ond mae hynny yn golygu llawer o amser a gwaith caled.

Er hynny, rwy’n ceisio cadw'r penwythnosau yn glir i fwynhau fy hobïau megis marchogaeth ceffylau, cymdeithasu gyda fy ffrindiau ac rwyf ar hyn o bryd yn hyfforddi ar gyfer fy marathon gyntaf ym mis Hydref, sy’n nod mawr i weithio tuag ato.

Y foment fwyaf i fod yn falch ohoni hyd yn hyn oedd ennill gwobr Entrepreneur y Flwyddyn Shell Live-Wire yn 2007.  Roedd yn deimlad gwych i gael ein teuluoedd yno i rannu’r llwyddiant gyda ni.”