
Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth
Sian Lloyd Darlledwraig Teledu
‘Cymru yn pleidleisio ‘ie’ dros ddatganoli oedd
fy moment fwyaf ysbrydoledig’
“Rwy’n cael fy ysbrydoli gan nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys pobl yr wyf yn eu cyfarfod, llefydd rwy’n ymweld â hwy, llyfrau rwyf wedi eu darllen a’r gelfyddyd a’r bwyd yr wyf yn eu mwynhau. Y tro olaf i mi deimlo gwir ysbrydoliaeth oedd ym mis Ionawr, pan ymwelais â Phatagonia yn yr Ariannin. Mae’n le prydferth a chefais fy ysbrydoli gan angerdd y Cymry yno i gadw’r iaith a’r diwylliant yn fyw. Mae fy ngyrfa yn bwysig iawn i mi ac wedi rhoi’r cyfleoedd i wneud nifer o bethau diddorol.
Rwyf wedi wynebu nifer o heriau gan bobl sy’n fy nhanseilio ond mae hynny wedi fy ngwthio i wneud hyd yn oed yn well na disgwyliadau pobl. Rwyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu erthyglau ar deithio ar gyfer papurau newydd a chylchgronau, sy’n fy ngalluogi i gyfuno fy ngwaith gydag un o fy hoff ddiddordebau. Mae fy nghydbwysedd bywyd a gwaith wedi gwella’n aruthrol ers i mi briodi. Rwy’n cydbwyso fy ngwaith â threulio amser safonol gyda fy ngŵr yng Nghanolbarth Cymru yn mwynhau fy niddordebau niferus, gan gynnwys coginio, theatr, mynydda, darllen a nofio.
Un foment fwyaf ysbrydoledig oedd bod yn dyst i Gymru yn pleidleisio ‘ie’ dros ddatganoli. Roedd yn garreg filltir wleidyddol ac yn arwydd fod pethau yn mynd i newid er well.”

