Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Sharon Williams ~ Pia

Mae Pia yn gwmni argraffu sydd wedi ei leoli yn Cwmbran ac yn arbenigo mewn cyfathrebiadau hygyrch megis Braille a phrint mawr

Wedi ei sefydlu ym 1985, mae Pia yn cyfieithu dogfennau ar gyfer pobl a nam ar eu golwg ar gyfer bas client amrywiol gan gynnwys llywodraeth a chyrff cyhoeddus, banciau a phrifysgolion

Mae’r cwmni yn cyflogi 11 person ar hyn o bryd ac, yn ei hanes diweddar, mae canran sylweddol o’u gweithlu wedi bod yn fenywod.   Mae hyn hefyd yn golygu fod nifer o weithwyr Pia wedi cael cyfrifoldebau gofal. 

Fel rhan o’u cyfranogiad ym mhrosiect Cenedl Hyblyg, rhoddodd Pia y cyfle i’w staff gymryd rhan yn rhaglen hyfforddi Esgyniad i ddatblygu eu sgiliau a’i helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa.  Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant achrededig y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) sydd wedi ei gynllunio i wella sgiliau rheoli, hyder yn y gweithle, rheolaeth amser a’r gallu i ysgogi aelodau arall o’r tîm.

Derbyniodd Rheolydd Gweithrediadau, Lauren Morse, 23, ddyrchafiad yn dilyn cwblhau'r Rhaglen Esgyniad ac mae hi bellach yn gyfrifol am reoli llinell saith o bobl.  Mae ei rôl yn cynnwys gwirio ansawdd yr holl waith sy’n cael ei gynhyrchu a datblygu perthnasau gyda clientau. 

Gwnaeth y Rheolydd Gyfarwyddydd, Sharon William, gais yn ddiweddar am gymorth gan Cenedl Hyblyg ar weithio o bell a gweithredu atebion gwerthfawr a fydd  yn ei gwneud yn haws i staff weithio gartref ac ar daith.

Dywedodd Sharon

“Rydym wedi gweithio gyda Chwarae Teg dros nifer o flynyddoedd a rhoi un o’n rheolyddion trwy’r Rhaglen Esgyniad yn llwyddiannus.  Mae hyn wedi helpu i wella ein sgiliau a chryfhau’r tîm.  Rydym yn gwmni bach felly mae’n fantais enfawr i allu cael mynediad i hyfforddiant achrededig o’r safon uchaf yn rhad ac am ddim.

“Rydym yn gweithio gyda Chwarae Teg ar ein polisïau gweithio o bell.  Ar hyn o bryd mae gennym 20% o’n staff sy’n gweithio’n hyblyg, gan gynnwys oriau rhan-amser neu wythnos gywasgedig.  Y rhwystr mwyaf rydym yn ei wynebu yw natur sensitif ein gwaith.  Rydym yn delio gyda dogfennau cyfrinachol ar ran ein cwsmeriaid sy’n golygu ei bod yn anodd i bobl fynd â’r deunydd o’r swyddfa a gweithio o adref.

“Rydym eisiau sicrhau ein bod yn macsimeiddio cyfleoedd gweithio o bell lle bo’n bosibl er mwyn cymhwyso aelodau o staff sydd â chyfrifoldebau gofal.  Y nod yw cael polisi gweithio o bell tryloyw mewn lle a fydd yn ein galluogi i gydymffurfio gyda deddfwriaeth, parhau i ysgogi ein staff a chael canlyniadau mor effeithiol â phosibl ar gyfer ein clientau.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chwarae Teg tuag at y dibenion hyn gan fod ein profiad o weithio gyda hwy hyd yn hyn wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol.  Mae cymryd rhan yn Cenedl Hyblyg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni ac ni fyddwn yn oedi wrth argymell y prosiect i fusnesau eraill.”