X

Seremoni Wobrwyo Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau i bawb!

Dathlu llwyddiannau ein cyfranogwyr

Ym mis Tachwedd, daeth dros 30 o fenywod ein rhaglen Esgyniad i seremoni wobrwyo a gynhaliwyd gennym yng Nghwesty Cei Deganwy, Conwy. Roedd y menywod hyn wedi cwblhau a llwyddo i ennill Dyfarniad Lefel 2 mewn Arwain Tîm neu Ddyfarniad Lefel 3 mewn Rheolaeth Llinell Gyntaf y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Rhoddodd y siaradwr gwadd Andrea Calland sgwrs ar ysbrydoliaeth, gyda Susie Ventris-Field darparu arweiniad ar sgiliau cyflwyno

Rhoddodd y seremoni gyfle ardderchog i’r menywod ar y rhaglen gymysgu â chyd-ddysgwyr a dathlu eu llwyddiannau. Ymunodd staff y prosiect yn y dathliadau, ac roeddent ar gael i drafod cyfleoedd datblygu pellach a oedd ar gael trwy’r Prosiect Cenedl Hyblyg.


Cyhoeddwyd ar: 23/11/2011