Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

South West Wales Awards Ceremony 2011

Seremoni Wobrwyo De Orllewin Cymru Llongyfarchiadau i bawb!

Ar 8 Mawrth 2011 daeth 100 o fenywod i ddigwyddiad ym Mharc y Scarlets yn Llanelli i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Roedd y noswaith yn gyfle gwych i fenywod sy’n rhan o’r prosiect gyfarfod cyd-ddysgwyr a staff cymorth a gwrando ar dri siaradwr gwadd ysbrydoledig - Gaynor Richards (Cyfarwyddwr - Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot), Rachel Flanagan (Rheolwr Gyfarwyddwr Mrs Bucket) a Kelly Edwards (Rheolwr Gyfarwyddwr Kelly Edwards Skincare), yn sôn am eu taith i lwyddiant a’r rhwystrau y maent wedi gorfod eu goresgyn ar y daith.

Lansiwyd gwefan Cenedl Hyblyg 24/7 newydd Chwarae Teg yn ystod y digwyddiad, gyda chyflwyniad ar fanteision y wefan unigryw newydd. Roedd staff wrth law i drafod cyfleoedd i ddatblygu ymhellach drwy’r Prosiect Cenedl Hyblyg.

Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd tystysgrifau i fenywod a oedd wedi llwyddo i gwblhau eu Dyfarniadau Arwain Tîm Lefel 2. Soniodd un ohonynt fod y cwrs wedi bod yn fuddiol iawn ac yn llawn hwyl.

Sefydlwyd ‘marchnad’ ar gyfer aelodau sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain er mwyn iddynt allu hyrwyddo eu cynhyrchion a/neu hysbysebu eu gwasanaethau. Roedd y stondinau’n cynnwys dylunio gwefannau, gofal croen organig, gemwaith, nwyddau i’r cartref ac asiantaethau cymorth.

Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bwriedir cynnal digwyddiad tebyg arall ym mis Tachwedd 2011.

:
Cyhoeddwyd ar: 08/03/2011