
Seremoni Wobrwyo De-ddwyrain Cymru
Llongyfarchiadau i bawb!
Dathlu llwyddiannau ein cyfranogwyr
Ym mis Hydref, daeth dros 30 o fenywod ein rhaglen Esgyniad i seremoni wobrwyo a gynhaliwyd gennym yng Nghanolfan QED, Trefforest. Roedd y menywod hyn wedi cwblhau a llwyddo i ennill Dyfarniad Lefel 2 mewn Arwain Tîm neu Ddyfarniad Lefel 3 mewn Rheolaeth Llinell Gyntaf y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Ymunodd y siaradwyr gwadd, Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg a Cheyanne Staley, cyn-gyfranogwr rhaglen Lefel 2 yr ILM â thîm y prosiect, yn y de-ddwyrain i gyflwyno’r tystysgrifau. Siaradodd Katy Chamberlain am ddatblygiad ei gyrfa ei hun a rhannodd Cheyanne Staley ei phrofiadau o gwblhau’r rhaglen Esgyniad Lefel 2 ac ennill y Wobr Addysg Oedolion.
Rhoddodd y seremoni gyfle ardderchog i’r menywod ar y rhaglen gymysgu â chyd-ddysgwyr a dathlu eu llwyddiannau. Ymunodd staff y prosiect yn y dathliadau, ac roeddent ar gael i drafod cyfleoedd datblygu pellach a oedd ar gael trwy’r Prosiect Cenedl Hyblyg.
![]()
Cyhoeddwyd ar: 14/10/2011

