Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Samantha Kinson - Wedi i mi gwblhau Esgyniad roeddwn wedi fy ysbrydoli gan y cyfleoedd gyrfaol ar gael ac roeddwn yn credu yn fy ngallu i gyflawni’r gwaith

Storiâu Llwyddiant ~ Samantha Kinson

Y Prosiect Cenedl Hyblyg yn Esgyn Gyrfa Merch
sy’n gadael Ysgol

Gadawodd Samantha Kinson, sy’n dod o Ferndale, yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw ddymuniad i fynd i brifysgol, ond yn hytrach dewisodd aros yng Nghwm Rhondda i ddilyn llwybr gwahanol ar gyfer ei gyrfa
Wrth symud ymlaen ychydig flynyddoedd mae Samantha bellach wedi cael ei dyrchafu i rôl barhaol Cynorthwyydd AD  ar gyfer Grow Enterprise Wales wedi iddi fod yn ymwneud â Rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg

Ar ôl blwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg  yn y coleg, penderfynodd Samantha fod gyrfa mewn Adnoddau Dynol yn apelio ac ymgeisiodd am gyfleoedd gwaith o fewn Cwm Rhondda

Yn fuan wedyn ymunodd â Grow Enterprise Wales ar gytundeb dros dro fel Cynorthwyydd AD

“Er fy mod wrth fy modd i fod yn y rôl newydd, roedd fy hyder yn isel pan ymunais â Grow Enterprise Wales ac roedd rhai o’r tasgau a wynebais yn ymddangos yn frawychus”,

Dywedodd Samantha:

“Felly, roeddwn yn falch iawn pan glywais am Genedl Hyblyg gan fod eu rhaglen Esgyniad yn cynnwys nifer o’r meysydd lle yr oedd angen magu hyder arnaf, megis cyfathrebu yn y gweithle a rheoli llwyth gwaith”, ychwanegodd.

Sut y gwnaethom ni helpu

Fe wnaethom weithio yn agos gyda Samantha wrth iddi ymgymryd â’r rhaglen Esgyniad Lefel Dau yn ystod haf 2010, a oedd wedi ei gynllunio i wella ei sgiliau rheoli a datblygu ei hyder yn y gweithle

Dywedodd Elin Davies, uwch swyddog prosiect ar gyfer Cenedl Hyblyg,

“Pan gyfarfûm â  Sam gyntaf, roedd hi’n wirioneddol swil gydag ychydig iawn o hyder.  Roedd hi’n newydd i’w rôl ac esboniodd ei bod yn teimlo’n ansicr o’i galluoedd.

“Gweithiais yn agos gyda Sam trwy gydol y rhaglen trwy osod heriau bach ym mhob modiwl.  Ar ddiwedd y pum sesiwn roedd hyder Sam wedi tyfu ac roedd yn gyfforddus wrth gyflwyno ei darganfyddiadau i weddill y grŵp.”

Y Buddion i Samantha a Grow Enterprise Wales

Ar ôl cwblhau'r rhaglen Esgyniad, cynigwyd swydd barhaol i Samantha gyda Grow Enterprise Wales.  Mae’r datblygiad yn ei hyder a’r grêd yn ei gallu yn golygu ei bod nawr yn hyderus i gynnal y cyfrifoldeb o ddelio gyda materion cyflogaeth i dîm o dros 200 o bobl.

Dywedodd Samantha:

“Cyn i mi ddechrau ar y rhaglen Esgyniad roeddwn ond yn gweithio yn rhan amser ar gytundeb dros dro.  Serch hynny, wedi i mi gwblhau Esgyniad roeddwn wedi fy ysbrydoli gan y cyfleoedd gyrfaol ar gael ac roeddwn yn credu yn fy ngallu i gyflawni’r gwaith.

“Rwyf newydd gael dyrchafiad i rôl Cynorthwyydd AD llawn amser, parhaol ac rwyf wedi ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau. Rwyf bellach yn edrych ar ôl dros ddau gant o aelodau o staff, yn delio gydag ymholiadau AD o ddydd i ddydd yn ogystal â bod yn gysylltiedig â recriwtio ac achosion disgyblu.

“Heb y sgiliau a ddysgais ar Esgyniad nid wyf yn credu byddai fy ngyrfa wedi datblygu cymaint ag y mae.  Mae wedi fy nysgu am ffyrdd effeithiol o flaenoriaethu fy llwyth gwaith, yn fy ngalluogi i fod yn hyderus wrth ymgymryd â rhagor o dasgau yn y gwaith.”

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach 

Samantha Kinson ar Cymru Arlein: "How I got my dream job"