Datganiad Preifatrwydd
Pan fyddwch chi’n gofyn am wybodaeth gan Chwarae Teg neu’n cofrestru ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, bydd Chwarae Teg yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi
Mae’r datganiad hwn yn egluro sut byddwn yn gofalu am y wybodaeth honno a’r hyn y byddwn yn ei wneud â hi.
Fel arfer, mae’r unig wybodaeth y byddwn yn ei chadw yn dod yn uniongyrchol gennych chi. Pryd bynnag y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi, byddwn yn nodi’n glir pa wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn rhoi’r wybodaeth, y gwasanaeth neu’r nwyddau sydd eu hangen arnoch. Nid oes disgwyl i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i ni os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Rydym yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ar ein system gyfrifiadurol, rydym yn cyfyngu mynediad i’r sawl sydd angen gwybod, ac rydym yn hyfforddi’n staff i ymdrin â gwybodaeth yn ddiogel.
Hefyd, hoffem gysylltu â chi yn y dyfodol i ddweud wrthych am unrhyw wasanaethau eraill a ddarparwn, a ffyrdd y gallech chi gefnogi Chwarae Teg o bosibl. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â chysylltu â chi fel hyn. Byddwn yn ceisio darparu dull clir i chi eithrio hon bob amser. Gallwch hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol ar unrhyw adeg i ddweud wrthym am beidio ag anfon unrhyw ddeunydd marchnata atoch yn y dyfodol.
We would also like to contact you in future to tell you about other services we provide, and ways in which you might like to support Chwarae Teg. You have the right to ask us not to contact you in this way. We will always aim to provide a clear method for you to opt out. You can also contact us directly at any time to tell us not to send you any future marketing material.
Ambell waith, byddwn yn cynnal ymgyrch bostio ar y cyd gyda sefydliadau eraill a ddewisir yn ofalus, er mwyn dweud wrthych am gynhyrchion a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Eto, mae gennych y dewis i beidio derbyn y rhain.
Mae gennych hawl i dderbyn copi o’r holl wybodaeth sydd gennym amdanoch (ar wahân i rai pethau y bydd yn ofynnol i ni beidio eu datgelu am eu bod yn ymwneud â phobl eraill hefyd). I gael copi, gofynnwch i ni anfon ffurflen gais atoch chi, neu ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data Chwarae Teg. Byddwn yn ceisio ateb cyn gynted ag y gallwn, ond yn bendant o fewn yr uchafswm cyfreithiol o 40 diwrnod.

