X

Datganiad Polisi Diogelu Data

Cyflwyniad

Mae Chwarae Teg wedi’i gofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig.

Mae Chwarae Teg yn ymrwymedig i amddiffyn eich preifatrwydd a’ch diogelwch. Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. 

Dim ond yng nghyd-destun y rhaglen dysgu a datblygu a ddarperir gennym ni ac y byddwch chi yn ei chyflawni y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir.  Yn ogystal â’r data a gesglir drwy’r ffurflen Cofrestru Diddordeb, byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol sensitif bellach pan fyddwch yn ymrestru ar y prosiect.

Datganiad

Mae Chwarae Teg yn prosesu’r wybodaeth a gesglir ar y ffurflen Cofrestru Diddordeb at y dibenion canlynol:

  • Defnyddir y wybodaeth a roddir ar gyfer gweinyddu prosiect Cenedl Hyblyg a gwasanaethau cysylltiedig.
  • Sefydlu cymhwyster ymgeisydd mewn perthynas ag ymuno â phrosiect Cenedl Hyblyg.
  • Gweld a yw darpar ymgeisydd yn byw yn un o’r ardaloedd cydgyfeirio, h.y. y Gogledd, y De-orllewin neu’r De-ddwyrain (Gweler map o’r ardal gydgyfeirio).
  • Gweld beth yw statws galwedigaethol ymgeisydd ar gyfer gwirio cymhwysedd.
  • Sefydlu a oes gan gyflogwr ganolfan yn un i’r ardaloedd cydgyfeirio.
  • Er mwyn i aelod o staff gysylltu ag ymgeiswyr cymwys ar ôl cwblhau’r ffurflen Cofrestru Diddordeb neu ar unrhyw adeg arall yn ystod oes y prosiect. (Gweler Eithrio isod)
  • Sicrhau darpariaeth effeithiol ein gwasanaethau.

O dan ofynion cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru mae’n ofynnol i ni gasglu data personol a fydd yn cael ei anfon i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’i chadw am oes y cyllid. Defnyddir y wybodaeth hon at ddibenion monitro, gwerthuso, ansawdd ac ymchwil yn unig ac ni fydd yn cael ei gwerthu i drydydd parti. Ar ôl diwedd oes y rhaglen gyllido, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei dinistrio’n ddiogel.

Bydd unrhyw wybodaeth a gesglir o’r ffurflen Cofrestru Gwybodaeth nad yw’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol yn cael ei dinistrio’n ddiogel.

Ceisiadau i Eithrio

Os yw ymgeisydd am ddiwygio neu ddileu ei ddata ar unrhyw adeg, mae’n rhaid iddo hysbysu Chwarae Teg naill ai ar y ffôn neu drwy e-bost a byddwn yn ymdrin â’r cais cyn gynted â phosibl.