Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Modiwlau Opsiynol

Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
yn y Gweithle

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Mae cydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gweithle nid yn unig yn sicrhau eich bod chi a’ch
sefydliad yn gweithredu o fewn y gyfraith, ond hefyd yn dda i’ch busnes. Mae’r gallu i
ddeall a gwerthfawrogi amrywioldeb o fewn y gweithle yn sgil rheolaeth allweddol ac yn
hanfodol ar gyfer adeiladu tîm llwyddiannus. Mae’r g weithdy hwn yn galluogi rheolwyr i
ddeall yr achos fusnes ar gyfer cydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gweithle, ynghyd â’r
buddion y mae’n dod ag i dimoedd gwaith ac unigolion.

Pwrpas y gweithdy

Bydd y gweithdy yn darparu arweinyddion tîm a rheolwyr gyda’r wybodaeth â’r
ymwybyddiaeth bersonol sydd eu hangen i arwain timoedd o fewn amgylchedd amrywiol a defnyddio’r egwyddorion o arfer gorau i gyrraedd nodau personol a sefydliadol.

Bydd cydraddoldeb ac amrywioldeb yn cael ei archwilio mewn perthynas i reolaeth pobl
dda a’r gallu i adnabod a gwerthfawrogi talentau a sgiliau gwahanol.

Bydd cyfranogwyr yn edrych ar gredoau, gwerthoedd ac agweddau mewn amgylchedd
cefnogol a diogel, er mwyn deall sut fod gwerthfawrogi amrywioldeb o fewn y tîm yn gallu
magu ymddiriedaeth a gwella perfformiad.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r gweithdy ar gyfer menywod sy’n gyfranogwyr i’r prosiect Cenedl Hyblyg ac sydd wedi cwblhau hyfforddiant y Rhaglen Esgyniad ac sydd eisiau parhau i ddatblygu eu sgiliau a’u gallu i reoli timoedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am gydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gweithle

Buddion y gweithdy

Trwy fynychu’r gweithdy byddwch yn dysgu sut i:

Reoli cydraddoldeb ac amrywioldeb o fewn eich tîm

Ddatblygu eich sgiliau arwain tîm

Ddysgu ynglyn â’r gyfraith cydraddoldeb newydd a sut y mae’n
berthnasol i’ch rôl chi

Greu cynllun gwaith ar gyfer newid

Ddeall pan fod cydraddoldeb ac amrywioldeb yn dda ar gyfer busnes

Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ar gyfer cyfranogwyr y Rhaglen Esgyniad a bydd pob cynrychiolydd yn derbyn Gwobr y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Cysylltwch â’ch Uwch Swyddog Prosiect am ragor o wybodaeth ac archebu eich lle.