Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth
Menywod Blaenllaw yng Nghymru yn rhannu eu hysbrydoliaeth
Fel rhan o ymgyrch ‘Womenspire’ Cenedl Hyblyg rydym wedi bod yn holi menywod Cymru o fyd chwaraeon, adloniant a busnes i ddweud wrthym beth sydd wedi eu hysbrydoli hwy yn eu bywydau
Mae prosiect Cenedl Hyblyg yn cefnogi menywod i’w helpu i ddatgloi eu potensial yn y gwaith ac mae’n bleser gennym fod nifer o fenywod blaenllaw yng Nghymru wedi bod yn hynod o garedig i rannu eu storiâu ysbrydoledig gyda ni.
Mae ysbrydoliaeth yn bwysig iawn i nifer o bobl, gan ei fod yn gallu helpu i droi breuddwydion yn realiti a thra na ellir dysgu ysbrydoliaeth, mae’n bosib dysgu gan a chymryd ysbrydoliaeth o brofiadau menywod eraill. Gobeithio trwy ddarllen y storiâu ysbrydoledig hyn byddwch yn cael ysbrydoliaeth bellach i’ch helpu i gyrraedd eich nodau personol chi.
Lucy Cohen
Cyd-sylfaenydd cwmni cyfrifeg Mazuma UK Cyf.
“Mae comedi yn fy ysbrydoli - mae'n apelio at fy ochr digrifwch”
“Rwy'n teimlo fod comedi yn ysbrydoledig iawn. Mae'n apelio at fy ochr digrifwch ac yn helpu i mi edrych ar bethau o bersbectif gwahanol. Mae'n bwysig i mi weld yr ochr ddoniol o bethau ac yn medru bod yn wylaidd ar yr un pryd”
Bonita Norris
Bonita Norris, y Brydeinwraig ieuangaf i ddringo Everest
“Cefais fy ysbrydoli i ddringo mynydd. Roedd y syniad yn gwrthod diflannu; roeddwn yn benderfynol o'i gyflawni”
“Roedd cyrraedd copa Everest yn deimlad anhygoel, gyda dringwyr eraill o'm hamgylch roeddwn yn llythrennol ar ben y byd. Ar y ffordd i fyny cefais fy ysgogi gan yr holl gariad a chefnogaeth a dderbyniais wrth i mi ymdrechu i gyflawni fy mreuddwyd ac ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb fy nhîm noddi yn VocaLink”
Y Fonesig Tanni Grey-Thompson DBE
Mabolgampwr Cymraeg/Cyflwynwr Teledu
“Mae’n rhaid i mi gael hyder yn fy ngallu fy hun pan fod eraill yn ceisio gosod cyfyngiadau arno”
“Mae bod adref gyda fy nheulu yn fy ysbrydoli fwyaf. Pan fod gennych fywyd cartref a gwaith prysur, mae’n anochel fod rhaid i chi gyfaddawdu ond mae’n bwysig i fwynhau'r amser sydd gennych adref ac ymlacio”
Sophie Hughes
Cyd-sylfaenydd Mazuma UK Ltd.
“Mae fy nghar yn fy ysbrydoli i – dyma’r lle gorau i feddwl”
“Mae gwneud arian yn fy ysbrydoli, gan ei fod yn golygu y gallaf dalu fy morgais i gyd a mwynhau mwy o incwm gwario. Rwyf wastad wedi eisiau rhedeg fy musnes fy hun... Pan benderfynodd fy nghyd-sylfaenydd Lucy Cohen a fi sefydlu Mazuma, roedd yn rhaid i ni oresgyn y stereoteipio gan gyfrifwyr eraill a oedd yn tybio gan mae menywod ifanc oeddem ni...”
Hayley Parsons OBE
Sylfaenwr/Prif Weithredwr o 'GoCompare.com'
“Rwy’n cael fy ysbrydoliaeth o weld eraill yn llwyddo”
I ysbrydoli fy hun, rwy’n gosod nodau a thargedau i mi eu cyflawni ac rwy’n cael cyffro mawr pan rwyf yn llwyddo i’w cyflawni hwy... rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr amser yr wyf yn ei gael i ymlacio gyda fy mab a’m mhartner. Rwy’n ceisio fy ngorau i beidio gweithio ar benwythnosau fel bod gennyf ddigon o amser ar gyfer picnic a theithiau beic gyda fy nheulu”
Sian Lloyd
Darlledwraig Teledu
“Cymru yn pleidleisio ‘ie’ dros ddatganoli oedd fy moment fwyaf ysbrydoledig”
“Rwy’n cael fy ysbrydoli gan nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys pobl yr wyf yn eu cyfarfod, llefydd rwy’n ymweld â hwy, llyfrau rwyf wedi eu darllen a’r gelfyddyd a’r bwyd yr wyf yn eu mwynhau.
Y tro olaf i mi deimlo gwir ysbrydoliaeth oedd ym mis Ionawr, pan ymwelais â Phatagonia yn yr Ariannin. Mae’n le prydferth a chefais fy ysbrydoli gan angerdd y Cymry yno i gadw’r iaith a’r diwylliant yn fyw”







