X

Adeiladu ar eich hyder i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, ddysgu sgiliau allweddol, archwilio eich cyfleoedd

Rhaglen Esgyniad i Fenywod

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle

Rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg ar gyfer Menywod RHAD AC AM DDIM
Pwrpas y Cwrs

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddysgu sgiliau allweddol, archwilio eich cyfleoedd a'ch uchelgais ar gyfer datblygu yn y gweithle ac adeiladu ar eich hyder i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa. Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn derbyn Gwobr y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 2 mewn Arwain Tîm.

Pwy ddylai fynychu

Menywod sy'n dymuno Cyflawni eu potensial a symud eu gyrfaoedd ymlaen. Menywod sydd neu sydd eisiau dod yn arweinyddion tîm, ac a fyddai'n elwa o ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth yn ffurfiol ar gyfer y rolau hyn.

Buddion y cwrs

Wrth fynychu'r cwrs byddwch yn datblygu

  • eich gallu i arwain tîm
  • sgiliau rheolaeth amser, ysgogiad a chyfathrebu
  • technegau rheolaeth straen a phendantrwydd
  • strategaethau i orchfygu rhwystrau yn eich hunanddatblygiad
Buddion ychwanegol

Modiwlau opsiynol

  • cydbwyso Bywyd a Gwaith a Gweithio Hyblyg
  • cydraddoldeb a amrywioldeb

Rhaglen Ddatblygu ddilynol

  • digwyddiadau Rhwydweithio
  • hyfforddi cynorthwyedig
  • cyngor, cefnogaeth ac arweiniad

Lawrlwythwch y llyfryn EsblyguLinc

Ydych chi’n barod am Esgyniad? Eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Cysylltwch â niLinc

Cenedl Hyblyg yn eich ardal

I sicrhau ein bod yn cyflawni'r prosiect Cenedl Hyblyg yn effeithiol ar draws Cymru, mae gennym dimoedd wedi eu lleoli ar draws y wlad.  I weld sut y gallwn eich helpu cysylltwch â ni 

Line

Mae Chwarae Teg Cenedl Hyblyg yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru