Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Partneriaeth Gwyn George

Cwmni cyfreithiol modern sydd â thîm o gyfreithwyr blaengar ac uchelgeisiol a staff cymorth rhagorol yw Partneriaeth Gwyn George

cyfraith trosedd, achosion teuluol a gofal plant, eiddo, ewyllysiau a phrofiant, hawliadau yn dilyn damweiniau a gwasanaethau lles (budd-daliadau tai, dyled a lles)

Mae gan y cwmni swyddfeydd ledled y De yn Aberdâr, Ystradgynlais, Merthyr Tudful a’r Coed-duon. Mae’n gweithredu ar ran pobl leol ac ar ran cleientiaid o bob cwr o’r DU.

Rhesymau dros y diddordeb ym mhrosiect Cenedl Hyblyg

Cydweithiodd Partneriaeth Gwyn George â Chwarae Teg saith mlynedd yn ôl, fel rhan o’r Prosiect Cydraddoldeb BBaCh. Fe aeth cynghorydd busnes llawrydd ati i lunio polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ar eu cyfer.

Yn 2009, cysylltodd un o Uwch Swyddogion Prosiect Cenedl Hyblyg â’r cwmni i gynnig hyfforddiant achrededig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM) ar gyfer menywod cyflogedig y cwmni, ynghyd â gwasanaeth ymgynghori ar bolisïau adnoddau dynol a fyddai’n gyfle i ddiweddaru a gwella’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol.

Mae gan Bartneriaeth Gwyn George ddiwylliant croesawgar, agored ac mae pob gweithiwr cyflogedig yn cael ei drin fel unigolyn. Ceir amgylchedd gwaith hyblyg, cyfradd absenoldeb isel a chyfradd cadw staff uchel, ac mae 100% o fenywod yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth. Fodd bynnag, mae angen diweddaru rhai polisïau er mwyn atgyfnerthu’r diwylliant ac mae’r bartneriaeth yn ymwybodol bod datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff yn hollbwysig i les a dyfodol ei gweithwyr cyflogedig.

O ganlyniad i’r cysylltiad diweddar â Chenedl Hyblyg, mae’r cwmni wedi rhoi cyfle i’w holl fenywod cyflogedig gymryd rhan yn y rhaglen Ascent. Mae pump menyw eisoes wedi manteisio ar y cyfle hwn, gan roi’r gair ar led i fenywod eraill yn y sefydliad am eu profiadau a’u hannog i fanteisio ar yr hyfforddiant.

Mae’r Rheolwr Adnoddau Dynol, Elaine Lewis, wedi mynychu cwrs Agor y Drws o’r rhaglen gyflogwyr ac wedi cwblhau ymarferiad Mapio Sefydliadol gyda’r Uwch Swyddog Prosiect.  O ganlyniad, mae’r Swyddog wedi creu cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau gweithredu canlynol ar gyfer y chwe mis nesaf:

  • Adolygu’r polisi oriau hyblyg presennol
  • Sefydlu gweithdrefnau priodol i fonitro trefniadau gweithio hyblyg
  • Ymestyn y polisi ‘Hawl i Ofyn’ i’r holl weithwyr cyflogedig
  • Hwyluso mynediad i’r Ganolfan Ragoriaeth Rith-wi
  • Adolygu’r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cyfarfod â Rheolwr y Prosiect TGCh i drafod atebion gweithio o bell
  • Adolygu polisïau a gweithdrefnau recriwtio a chadw staff cyfredol
Pam Cenedl Hyblyg?

Wrth gymryd rhan ym mhrosiect Cenedl Ystwyth, mae’r bartneriaeth yn derbyn cymorth a chefnogaeth hynod werthfawr er mwyn annog ei staff i gyflawni eu potensial llawn yn y gweithle a’r tu allan iddo. Ym marn y bartneriaeth, mae gwybodaeth a chefnogaeth yn gwella hyder a chymhwysedd.

Canlyniadau Cenedl Ystwyth i’r gweithwyr cyflogedig a’r busnes

Mae Partneriaeth Gwyn George yn credu y bydd cymryd rhan yn rhaglen Cenedl Ystwyth yn ei helpu i:

  • Roi cyfle i fenywod wella eu sgiliau a’u galluoedd, meithrin hyder, a datblygu eu gyrfaoedd
  • Galluogi’r holl weithwyr cyflogedig i fanteisio ar amgylchedd gwaith mwy hyblyg, gan helpu i greu gweithlu hapusach a mwy cynhyrchiol
  • Ennill Nod Barcud Chwarae Teg ar gyfer Arferion Gorau a helpu’r bartneriaeth i fod yn gyflogwr ‘Dewis Cyntaf’
Crynodeb

Fel cwmni bach, cyfeillgar, prif her Partneriaeth Gwyn George yw bod yn gystadleuol mewn marchnad sy’n cystadlu’n frwd am gwsmeriaid ac am staff sydd â’r cymwysterau gorau.

Fel sefydliad sy’n ymroddedig i addysg a datblygiad, roedd y cwmni’n awyddus iawn i annog ei fenywod cyflogedig i gymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli’r ILM. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cynnal ymarferiad Mapio Sefydliadol o dan arweiniad yr Uwch Swyddog Prosiect er mwyn adolygu a diweddaru ei bolisïau a’i weithdrefnau presennol.

Er yn methu â chystadlu â rhai cwmnïau mawr o safbwynt cyflogau, mae Partneriaeth Gwyn George yn benderfynol o ddatblygu ei harferion hyblyg presennol er mwyn dangos i’w gweithwyr cyflogedig a’i darpar weithwyr cyflogedig fod y cwmni’n lle da i weithio yno, ac yn gyflogwyr ‘dewis cyntaf’.