X

Mwy o weithwyr yn elwa ar amgylchedd gwaith mwy hyblyg

Partneriaeth Gwyn George

Ymunodd Partneriaeth Gwyn George, cwmni cyfreithwyr yn Aberdâr, â Chenedl Hyblyg er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud ei orau glas i ddod yn gyflogwr delfrydol mewn marchnad gystadleuol

Sut y gwnaethom ni helpu

Aeth Carl Williams, Rheolwr Prosiect TGCh Cenedl Hyblyg, i gwrdd â Gwyn George er mwyn ei helpu i nodi rhai amcanion busnes, fel galluogi menywod o fewn y sefydliad i weithio o bell/yn hyblyg er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.

Meddai Carl:

“Nid oedd yn amlwg i ddechrau faint o fenywod allai elwa o weithio o bell/yn hyblyg, ond gyda’n cymorth ni, nodwyd 10 menyw ac aethom ati i’w helpu.”

“Gweithiais law yn llaw â darparwr cymorth TG y cwmni i wneud yn siŵr bod unrhyw feddalwedd a ddarparwyd gennym yn cyd-fynd â’r systemau cyfredol.

“O ganlyniad, cawsom afael ar 10 gliniadur i’r menywod ac mae Cwmni Meddalwedd Open Source wrthi’n gosod y cyfarpar yng nghartrefi’r menywod.”

Y manteision i Bartneriaeth Gwyn George

Trwy Genedl Hyblyg, mae Partneriaeth Gwyn George wedi gallu sicrhau bod mwy o weithwyr yn elwa ar amgylchedd gwaith mwy hyblyg. Bydd hyn yn helpu i wella cynhyrchiant ac yn gwella’i enw da fel cyflogwr delfrydol o fewn y sector cyfreithiol yng Nghymru.

Meddai Partner Rheoli Gwyn George:

“Mae’r sector cyfreithiol wedi dod yn amgylchedd mor gystadleuol fel bod yn rhaid recriwtio a chadw staff penigamp er mwyn bod ar y blaen.

“Er mwyn cynnal cymhelliant a chynhyrchiant pob aelod o’r staff, credwn ei bod yn hanfodol eu bod yn cael cyflog teg a’u hyfforddi’n briodol. Mae’r un mor bwysig eu bod yn cael y gallu i weithio’n hyblyg, sydd bellach yn bosibl trwy fuddsoddi mewn technoleg fodern, a bydd hyn yn allweddol i redeg busnes llwyddiannus yn y dyfodol.”