Storiâu Llwyddiant ~ Partneriaeth Gwyn George, cwmni Cyfreithwyr
“Mae ein cyfranogiad yn y prosiect Cenedl Hyblyg wedi rhoi’r cyfle i’n staff benywaidd i wella eu sgiliau a’u galluoedd, magu hyder"
Rheolydd AD, Elaine Lewis
Saith mlynedd yn ôl bu Partneriaeth Gwyn George, cwmni cyfreithiol modern gyda thîm o gyfreithwyr blaengar ac uchelgeisiol sy’n cael eu cefnogi gan staff ardderchog, yn gweithio gyda Chwarae Teg fel rhan o brosiect Cydraddoldeb Busnesau Bach a Chanolig
Mae’r Partneriaeth yn cynnig amgylchedd hyblyg gyda graddfa isel o absenoldeb a 100% o fenywod yn dychwelyd o gyfnod mamolaeth
Serch hynny, yn 2009, teimlodd Gwyn George y gallai'r prosiect Cenedl Hyblyg eu helpu i ddiweddaru a gwella eu polisïau a gweithdrefnau presennol
![]()
Sut y gwnaethom ni helpu
Buom yn gweithio gyda staff benywaidd Gwyn George, yn eu cefnogi wrth iddynt ymgymryd â hyfforddiant achrededig ILM, ar yr un amser cyflawnwyd ymgynghoriad yn ymwneud â’u polisïau AD
Y buddion i Bartneriaeth Gwyn George
Fel canlyniad i’n hymglymiad, mae’r cwmni wedi rhoi’r cyfle i’w staff benywaidd gymryd rhan yn y rhaglen Esgyniad, a phump eisoes wedi cwblhau’r cwrs
Mynychodd y Rheolydd AD, Elaine Lewis, ein gweithdy rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr, ac yn ogystal â hyn rydym wedi darparu cefnogaeth ychwanegol i ddatblygu cynllun gwaith sy’n rhoi’r arweiniad angenrheidiol i Gwyn George sefydlu gweithdrefnau monitro gweithio hyblyg.
Dywedodd Elaine:
“Mae ein cyfranogiad yn y prosiect Cenedl Hyblyg wedi rhoi’r cyfle i’n staff benywaidd i wella eu sgiliau a’u galluoedd, magu hyder, a datblygu eu gyrfaoedd. Hefyd, mae Cenedl Hyblyg wedi ein galluogi i elwa o amgylchedd gwaith mwy hyblyg, sydd yn cyfrannu at weithlu hapus, mwy cynhyrchiol”
Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach


