Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Newydd ~ Olwen Thomas

"Roedd y digwyddiad hyfforddi ar weithio hyblyg i’n rheolwyr llinell yn rhagorol ac roedd yr adborth i’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn"

Treuliodd Cymdeithas Tai Newydd flwyddyn yn gweithio gyda Chwarae Teg ar brosiect Cenedl Hyblyg ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cawsom gymorth di-ben-draw ganddynt mewn perthynas ag arferion da, ynghyd â chymorth ymarferol i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau

Mae Cymdeithas Tai Newydd, sy’n cyflogi 75 o bobl, yn darparu llety fforddiadwy o safon uchel i bobl yng Nghymru.

Mae’r sefydliad, a sefydlwyd ym 1974, wedi datblygu’n un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru, ac mae’n darparu eiddo i’w rentu a’i brynu, ynghyd â gwasanaethau eraill yn ymwneud â thai.

Roedd Newydd yn awyddus i wella morâl staff a chael cymorth i adolygu polisïau a gweithdrefnau cyfredol ym maes Adnoddau Dynol, felly aeth ati i weithio gyda rhaglen Esblygu Cenedl Hyblyg.

Meddai Olwen Thomas, Rheolwr Adnoddau Dynol Newydd:

“Treuliodd Cymdeithas Tai Newydd flwyddyn yn gweithio gyda Chwarae Teg ar brosiect Cenedl Hyblyg ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cawsom gymorth di-ben-draw ganddynt mewn perthynas ag arferion da, ynghyd â chymorth ymarferol i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau.”

Sut yr aethom ati i helpu
O ganlyniad i gymryd rhan ym mhrosiect Cenedl Hyblyg, mae gan Newydd bellach gyfres gyfan o bolisïau a gweithdrefnau cyfoes ym maes Adnoddau Dynol, gan gynnwys dulliau o fonitro cynnydd a datblygiad.

Y buddion i Newydd Housing Association,
Meddai Cathy Kennedy, Uwch Swyddog Prosiect Cenedl Hyblyg:

"Daeth i’m sylw fod gan Newydd nifer anghymesur o weithwyr cyflogedig hŷn, ac mai prin iawn oedd y graddedigion iau. Trwy roi dull recriwtio arbennig ar waith, llwyddwyd i recriwtio mwy o raddedigion. Mae’r penderfyniad i ddileu’r oedran ymddeol gorfodol wedi bod o fudd mawr hefyd, gan roi cyfle i weithwyr cyflogedig mwy profiadol hyfforddi staff newydd.

Fe wnes i hwyluso sesiwn codi ymwybyddiaeth o weithio hyblyg gyda’r nod o ddarparu’r wybodaeth a’r dulliau sydd eu hangen ar reolwyr i allu rheoli staff â phatrymau gwaith hyblyg yn hyderus"

Ychwanegodd Olwen:

"Roedd y digwyddiad hyfforddi ar weithio hyblyg i’n rheolwyr llinell yn rhagorol ac roedd yr adborth i’r digwyddiad yn gadarnhaol iawn. Yn arbennig, roedd y rheolwyr wedi mwynhau’r cyfle i rannu eu profiadau eu hunain gyda rheolwyr llinell eraill, trafod anawsterau wrth reoli gweithio hyblyg a dysgu sut i reoli gweithio hyblyg mewn ffordd effeithiol.”