X

Emma Richards yn ennill Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol

14th December 2009

Llwyddiant wrth ennill gwobrau yn parhau yn Chwarae Teg...

Emma Richards yn derbyn Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol mewn digwyddiad sy’n cael ei  noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno

Emma Richards gyda Colin Jackson – Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol 2009

Emma Richards yn derbyn Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol gan  Colin Jackson

Dechreuodd Emma, sy’n gweithio fel Rheolydd Prosiect Rhanbarthol ar gyfer tîm Cenedl Hyblyg De Ddwyrain Cymru, ei gyrfa gyda Chwarae Teg yn 2005.  Fel cydlynydd ar y prosiect Ready Set Go, anogodd Emma fenywod i ennill sgiliau newydd a dychwelyd i addysg.  Wedi cael ei dylanwadu gan y rôl yma penderfynodd Emma ddychwelyd i hyfforddiant ei hunan a rhoi hwb i’w rhagolygon gyrfaol ei hun.

Sicrhaodd y cymwysterau hyn ei secondiad fel cyfarwyddyd Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru  yn 2008. Ac yna ei chynorthwyo i ddod yn rheolydd prosiect rhanbarthol wrth gyflawni rhan allweddol o brosiect blaenllaw Chwarae Teg, Cenedl Hyblyg, sy’n hyrwyddo arferion gweithio hyblyg ar draws yr economi Gymreig.

Dywedodd:

"Petawn i heb gymryd y cam a’r cyfrifoldeb am fy natblygiad fy hun yna ni fuaswn wedi medru symud fy ngyrfa ymlaen ymhellach.  Gobeithiaf y gallaf brofi nad yw hi byth rhy hwyr i ddechrau dysgu."

Y Gwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol yw’r gwobrau mwyaf mawreddog ym Mhrydain ar gyfer hyfforddiant, yn adnabod a dathlu sefydliadau ac unigolion sydd wedi cyflawni llwyddiant mawr mewn busnes ac yn bersonol trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant.