
Storiâu Llwyddiant ~
Michelle Willis
"Cefais gymaint o fudd fel y penderfynais anfon tri o’m rheolwyr eraill ar gwrs Esgyniad Lefel 2, a ddatblygodd eu hyder heb os nac oni bai"
Michelle Willis o Gonwy yw rheolwr yr asiantaeth gofal cartref Carelink Homecare Services Cyf. Mae’r busnes yn gwasanaethu tair sir yng ngogledd Cymru ac yn cyflogi 86 aelod o staff sy’n gweithio’n annibynnol yn y gymuned, yn darparu cymorth i bobl hŷn a phobl sy’n gorfforol anabl yn eu cartrefi
Roedd Michelle yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau rheoli, ac felly cofrestrodd ar y rhaglen Esgyniad Lefel 3 ac ymhen dim, roedd wrthi’n dysgu
Meddai Michelle:
“Roedd y cwrs yn ardderchog; roedd yn llawer o hwyl ac yn rhyngweithiol, a gallais hefyd fynd â’r hyn a ddysgais yn ôl i’r gweithle.”
“Cefais gymaint o fudd fel y penderfynais anfon tri o’m rheolwyr eraill ar gwrs Esgyniad Lefel 2, a ddatblygodd eu hyder heb os nac oni bai.”
Aeth Michelle ymlaen i gofrestru ei gweithlu ar y rhaglen Esblygu ac, o ganlyniad, cafodd prosesau recriwtio Carelink eu hailwampio i sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau’n cael y swyddi.
Gyda’r cymorth a gafodd gan Cenedl Hyblyg, roedd Michelle yn barod i wynebu her gyffrous arall, a gwnaeth gais i astudio am MBA Gweithredol ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd hefyd ei henwebu gan uwch-swyddog prosiect Cenedl Hyblyg, Susie Ventris-Field, am wobr Menyw Busnes y Flwyddyn Network She Conwy ac aeth ymlaen i ennill y wobr
Ychwanegodd Michelle:
“Roedd ennill y wobr yn ardderchog, nid yn unig i mi, ond i’r cwmni cyfan. Fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni cymaint heb gymorth fy nghydweithwyr a bu’n gymorth mawr i godi proffil fy musnes.”
Sut gwnaethon ni helpu
Yn sgil profiad cychwynnol Michelle ar y cwrs Esgyniad, cofrestrodd aelodau eraill o’r staff ar y rhaglen Esgyniad a chymerodd Carelink ran yn y rhaglen Esblygu
Meddai’r uwch-swyddog prosiect, Susie Ventris-Field:
“Mae Michelle yn ysbrydoliaeth - yn rhedeg busnes ei hun, yn astudio am MBA, ac yn rhwydweithiwr ardderchog.
“Mae wedi dangos cymaint o ymrwymiad i ddatblygiad ei haelodau staff ei hun, yn arbennig y tîm rheoli, ac mae wedi cymryd yr amser i gysylltu pobl yn ei rhwydweithiau, i weld eu potensial ac i’w cynorthwyo i ddatblygu eu gyrfaoedd yn barhaus.”
Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach

