X

Menywod Ysbrydoli Menywod

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2010


Isod: O'r chwith, Charlotte Williams OBE, Tessa Sanderson CBE, Janet Hay, Hayley Dunne ~ Rheolwr Prosiect Agile Nation, Denise Morris, Hayley Parsons.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2010...

Manteisiodd dros 150 o fenywod de Cymru ar y cyfle i gael eu hysbrydoli mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a gafodd ei gynnal gan brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg fel rhan o’r ymgyrch ‘Womenspire’.

Gwelodd y digwyddiad a gynhaliwyd ar ddydd Llun, 8 Mawrth yn McArthur Glen, Penybont ar Ogwr, siaradwyr gan gynnwys yr arwres chwaraeon Brydeinig Tessa Sanderson, rheolydd gyfarwyddydd GoCompare.com Hayley Parsons, Aelod o’r Cynulliad ieuengaf, Bethan Jenkins AC ac Ymgynghoriaeth AD 4Ward Development, Janet Hay a Denise Morris,  yn rhannu’r ysbrydoliaethau hynny sydd wedi eu gyrru hwy i lwyddo yn eu meysydd dewisedig 

Tessa Sanderson

Gwelodd y digwyddiad fenywod o bob cefndir yn dod at ei gilydd o fewn amgylchedd atmosfferaidd sinema’r Odeon i wrando ar storïau personol gwahanol iawn y siaradwyr, ond gwelwyd themâu a oedd yn gyffredin drwyddynt i gyd; y pwysigrwydd o gredu yn eich hunan, i gael y gred a’r hyder yn eich argyhoeddiadau a dilyn eich breuddwyd, beth bynnag ydyw.

Fe rannodd Tessa Sanderson CBE y stori o sut y cystadlodd ar y jafelin am y tro cyntaf yn yr ysgol am fet wirion dros becyn o sglodion, sut daeth athro cefnogol yn ysbrydoliaeth iddi lwyddo, a sut roedd ymdeimlad cystadleuol yn bwysig i’w gyrru ymlaen i gyflawni ei photensial athletaidd. Ar ddiwedd ei stori ddiddorol, fe ddangosodd ei medal aur Olympaidd i’r gynulleidfa, i gymeradwyaeth frwdfrydig.

“Am gyfnod rhy hir rydym wedi ofn taro drysau’r ystafell bwyllgor i lawr” meddai Sanderson, sydd wedi ei aphwyntio ar fwrdd cwmni ‘legacy’ y Parc Olympaidd, a fydd yn gyfrifol am adeiladu cymuned newydd yn y Parc Olympaidd wedi gemau 2012 yn Llundain.

“Weithiau rydym yn meddwl na allwn ni ennill y frwydr. Wel, gallwn ni, mae menywod yn frwydrwyr.  Mae rhaid i nifer o fenywod ymladd eu brwydrau caled a chynnal eu hunan.”
Ychwanegodd Sanderson, sydd hefyd yn helpu i feithrin sêr chwaraeon ifanc sy’n bwriadu cymryd rhan yn gemau 2012: “Mae’n rhaid i fenywod gael gwared â’r amheuon sydd ganddynt am eu hunan. Mae hyder, ffocws, hunangred a bod yn gystadleuol yn allweddol.”

Rhannodd yr awdur Charlotte Williams OBE, sydd hefyd yn ddarlithydd mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ei phrofiadau o fagwraeth fel plentyn du mewn cymuned o fwyafrif gwyn yng ngogledd Cymru, dod yn fam yn ei harddegau a mynediad hwyr mewn i addysg mewn stori ysbrydoledig dros ben sy’n dangos llwyddiant dros adfyd a phwysigrwydd mynediad i addysg. Trwy wneud sylwadau ar  y pwysigrwydd o gefnogi eich cyd fenywod yn y gweithle dywedodd:

“Dim ots o ba gefndir y dewch chi a lle bynnag ydych chi yn eich gyrfa, mae’n bwysig i chi edrych o amgylch a mynd a’ch chwiorydd gyda chi.”

Mae ‘Womenspire’ wedi cael ei gynllunio i godi ymwybyddiaeth o Genedl Hyblyg y prosiect gwerth £12.5m sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ymdrin ag anghydraddoldeb rhyw mewn cyflogaeth a datblygiad gyrfaol trwy hyfforddi menywod a chefnogi cyflogwyr i weithredu’r mesurau gweithio hyblyg.

Dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwraig Chwarae Teg:

“Pwrpas Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw i ddathlu llwyddiannau menywod a rhoddodd ein siaradwyr ysbrydoledig ddigon o bethau i’r gynulleidfa gnoi cil drosto yn ogystal â’r ysbrydoliaeth i symud ymlaen gyda’i nodau personol hwy.

“Nid yw menywod cystal am werthu eu hunan a dyna pam trwy Cenedl Hyblyg rydym yn helpu menywod i fagu hyder, sgiliau a hunan-barch yn ogystal â chefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o’r dalent sydd ar gael iddynt.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan ymgyrch cyfryngol cymdeithasol sy’n defnyddio Twitter, Facebook, sy’n gysylltiedig â’r rhaglen arloesol iPhone/iPod i alluogi menywod ar draws Cymru i rannu eu hysbrydoliaethau.