Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Melissa Burns - Rwy’n sicr fod yr hyfforddiant a dderbyniais trwy brosiect Cenedl Hyblyg wedi fy helpu i sicrhau dyrchafiad

Storiâu Llwyddiant ~ Melissa Burns

"Neidiais ar y cyfle i gymryd rhan yn Rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg"

Mae Melissa Burns o Glydach wastad wedi bod yn fywiog ac yn ogystal â chadw’n heini yn ei hamser hamdden, mae ffitrwydd wedi chwarae rhan fawr yn ei gyrfa.  Wedi blynyddoedd o ddysgu aerobeg yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe yn Abertawe, penderfynodd Melissa ei bod eisiau her newydd ac i ddatblygu ei sgiliau rheolaethol 
Daeth yn gysylltiedig â phrosiect Cenedl Hyblyg a arweiniodd at ddyrchafiad a’i gyrfa ddelfrydol

Pan ddaeth swydd wag i fyny am gydlynydd stiwdio yn Hamdden Celtic, roedd gan Melissa’r hyder i fynd amdani a rhoi ei sgiliau newydd ar waith

Dywedodd:

“Rwy’n sicr fod yr hyfforddiant a dderbyniais trwy brosiect Cenedl Hyblyg wedi fy helpu i sicrhau dyrchafiad a’n rhoi ar lwybr at yrfa fwy amrywiol a boddhaol”.   Roedd Melissa yn awyddus i roi hwb i’w sgiliau arweinyddiaeth er mwyn gallu dringo’r ysgol yrfaol. “Neidiais ar y cyfle i gymryd rhan yn Rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg, a oedd yn cynnwys nifer o feysydd a sgiliau craidd roedd angen i mi eu datblygu”, ychwanegodd.

Sut wnaethom ni helpu

Gweithiom gyda Melissa i adeiladu ei sgiliau arwain tîm a chyfathrebu yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ehangach iddi am faterion cyflogaeth a sut i reoli amser pobl eraill

Dywedodd Sarah Richards, rheolydd prosiect rhanbarthol:

“Mae Melissa yn brawf fod hyfforddiant mewn arweinyddiaeth yn gallu darparu ymgeiswyr gyda’r offer sydd eu hangen arnynt i gael hwb i’w cyflog yn ogystal â’u cyfrifoldebau”.

Y buddion i Melissa a Hamdden Cymunedol Celtic

Yn dilyn cwblhau’r rhaglen Esgyniad, ymgeisiodd Melissa am a llwyddo i gael y rôl o gydlynydd stiwdio.  Mae’n gyfrifol am gydlynu 82 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws naw canolfan hamdden yn ogystal â rheoli rhwydwaith o 20 hyfforddwr sy’n gweithio ar eu liwt eu hun.  Mae Melissa hefyd yn cymryd rôl flaenllaw wrth gyflwyno dosbarthiadau ffitrwydd newydd arloesol  i’r canolfannau.

Dywedodd Melissa:

“Rwyf wedi cyflawni fy uchelgeisiau gyrfaol a nawr mae gennyf fewnbwn mewn i strategaeth fusnes cyfan y ganolfan chwaraeon.  Er enghraifft, ar ôl ymchwilio arferion ffitrwydd cyfredol, cyflwynais ddosbarthiadau dawns Zumba, sydd wedi profi i fod yn boblogaidd gyda’n cwsmeriaid.  Mae gennyf fywyd-gwaith prysur dros ben ond yn teimlo’n foddhaol yn gwybod fy mod yn ychwanegu gwerth i fy nghyflogwr.”

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach

Melissa yn ymddangos ar wefan WEFO