X

Cartrefi RCT, Mandy Gower - Rhoddodd y Dyfarnia Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli yr hyder i mi wneud cais am secondiad mewnol

Straeon llwyddiant ~ Mandy Gower

Mandy Gower yn edrych i’r dyfodol gydag Ascent

Rheolwr Cynllun sydd wedi bod yn gweithio i Gartrefi RhCT ers mis Ebrill 2007 yw Mandy Gower

Astudiodd ym Mhrifysgol Luton ac mae ganddi Radd Anrhydedd mewn Rheolaeth Gymunedol ac Anrhydedd mewn Tai

Wedi cwblhau ei Gradd ym 1996, bu Mandy’n gweithio gyda Chymdeithas Dai Canolbarth Swydd Bedford, lle cafodd Dystysgrif BTEC National Wardens, y Dystysgrif Genedlaethol mewn Tai â Chymorth trwy’r Sefydliad Tai Siartredig a Thystysgrif CSHS National Wardens

Rhesymau dros ddewis Ascent

Hoffai Mandy symud i weithio fel Swyddog Tai, ac roedd hi’n teimlo y byddai’r ILM Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli yn ei helpu i wella’i sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl.

Profiad Mandy o Ascent

Yn ôl Mandy, roedd y cwrs yn ddifyr, y deunydd yn wych a’r tiwtor yn wybodus a diddorol

Llwyddodd y cwrs i annog Mandy i feddwl am sut mae hi’n cyflwyno’i hun i bobl, ac roedd y modiwl ar gryfderau a gwendidau’n ddefnyddiol tu hwnt.

Cafodd fudd arbennig o ddysgu am y cryfderau nad oedd hi’n sylweddoli oedd ganddi. Roedd y modiwl ar gyfathrebu’n ddefnyddiol hefyd, a dysgodd lawer am y gwahanol ffyrdd o siarad â phobl.

Roedd Mandy’n teimlo ei bod wedi elwa llawer ar y cwrs a’i fod yn gyfle gwych i rwydweithio â darpar arweinwyr tîm eraill.

Ascent yn y gweithle

Mae Mandy’n teimlo ei bod bellach yn gwerthuso mwy ar sefyllfaoedd cyn cyfathrebu, sy’n ei galluogi i fod yn fwy effeithiol yn ei swydd.

Manteisio’n llawn ar gyfle Ascent

Ers cwblhau’r cwrs, mae Mandy wedi mynychu un o’r digwyddiadau i aelodau, a oedd yn ysbrydoliaeth iddi

Mae hi bellach yn edrych ymlaen at fynychu’r modiwlau ychwanegol ar Gydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

A fyddai Mandy’n argymell cwrs Ascent i eraill?

"Heb os"! Mwynhaodd Mandy bob agwedd ar y cwrs a byddai’n ei argymell i fenywod eraill.

Dywedodd Mandy:

‘Rhoddodd y Dyfarniad Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli yr hyder i mi wneud cais am secondiad mewnol, ac, er nad oeddwn yn llwyddiannus, roeddwn yn gallu defnyddio’r wybodaeth a gefais ar y cwrs i werthu fy hun.

Erbyn hyn, mae gen i fwy o hyder i wneud cais am swydd fel Swyddog Tai ac i rannu’r wybodaeth sydd gen i am dai gydag eraill trwy fod yn hyfforddwr dysgu o bell.

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach