Womenspire - Rhannu Ysbrydoliaeth 
Lucy Cohen Cyd-sylfaenydd cwmni cyfrifeg Mazuma UK Cyf.
‘Mae comedi yn fy ysbrydoli - mae'n apelio at fy ochr digrifwch'
"Rwy'n teimlo fod comedi yn ysbrydoledig iawn.
Mae'n apelio at fy ochr digrifwch ac yn helpu i mi edrych ar bethau o bersbectif gwahanol. Mae'n bwysig i mi weld yr
ochr ddoniol o bethau ac yn medru bod yn wylaidd ar yr un pryd.
Mae sefydlu Mazuma wedi bod yn daith ysbrydoledig aruthrol. Fe wnaeth cychwyn gyda chwmni cyfrifeg yn 23 oed yn bendant ddal sylw pobl, ac nid bob amser mewn ffordd gadarnhaol. Roedd bod yn fenyw ifanc yn y proffesiwn yma yn golygu fod rhaid i mi fuddsoddi llawer mwy o amser ac ymdrech i brofi fy hygrededd.
Nid yw fy nghydbwysedd bywyd a gwaith yn dda o bell ffordd. Pan yr ydych yn berchen ar eich busnes eich hun, rydych yn tueddi i weithio bob awr o'r dydd. Nid yw hynny yn fy mhoeni i serch hynny, gan fy mod yn mwynhau cadw'n brysur a mwy na thebyg y buaswn wedi mynd yn wallgo' os nad oedd gennyf brosiect i'ng nghadw'n brysur. Rwy'n cael fy syniadau gwaith gorau tra fy mod yn ymlacio yn y gawod. Mae gennyf lawer o uchafbwyntiau yn fy ngyrfa ond yr un mwyaf arwyddocaol oedd sefydlu prif swyddfa Mazuma. Roedd yn waith caled dros ben ond roedd yn deimlad boddhaol i'w weld i fyny ac yn rhedeg
Yn y dyfodol, buaswn wrth fy modd cael pobl yn cyfeirio atom wrth drafod sut fod y diwydiant cyfrifeg wedi newid er gwell. Dyna yw'r uchelgais sy'n fy ysbrydoli'n wirioneddol."

