X

Lauren Hayes - Rhoddodd y Dyfarniad Arweinydd Tîm Lefel 2 yr hyder i mi wneud cais llwyddiannus am swydd fel Arweinydd Tîm

Storiâu Llwyddiant ~
Lauren Hayes

Lauren Hayes yn llwyddo gydag Ascent

Ar ôl astudio Seicoleg ac Astudiaethau Hunaniaeth ym Mhrifysgol Hope Lerpwl, penderfynodd Lauren Hayes ddilyn gyrfa mewn addysg, felly daeth yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn Ysgol Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghasnewydd

Yna, symudodd i feithrinfa ddydd breifat, dilynodd gwrs NVQ 3 mewn Gofal ac Addysg ac, yn y pen draw, daeth yn Ddirprwy Reolwr meithrinfa arall – gan weithio yno tan iddi roi genedigaeth i’w merch

Er mwyn cyfuno dyletswyddau gwaith a bod yn fam, dychwelodd Lauren i’r gwaith yn rhan-amser fel cynorthwyydd gofal plant gyda menter Dechrau’n Deg Caerffili

Yn y swydd hon, mae hi wedi gallu dilyn pob math o hyfforddiant i barhau â’i datblygiad proffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys y cyfle i ymuno â rhaglen Ascent ac astudio tuag at Ddyfarniad Arweinydd Tîm Lefel 2 sydd, ym marn Lauren, wedi ei helpu i ennill dyrchafiad diweddar yn Arweinydd Tîm.

Profiad Lauren o Ascent

Roedd Lauren wedi elwa ar rannu profiadau rheoli gyda phobl o wahanol amgylcheddau gwaith, ac roedd hi’n teimlo bod cynnwys y cwrs yn hynod berthnasol i’w maes gwaith

Rhoddodd gyfle iddi edrych ar ei rôl ei hun a chydnabod y pethau roedd hi’n eu gwneud yn dda. Hefyd, roedd y cwrs wedi gofyn am adborth gan ei rheolwr, a oedd yn gadarnhaol ac a roddodd yr hyder iddi wneud cais am ddyrchafiad.

Ascent yn y gweithle

Mae Lauren eisoes wedi gwneud defnydd da o’r sgiliau cyfathrebu a gafodd o gwrs Ascent yn ei gweithle

Mae hyn wedi cynnwys: sefydlu cyfarfodydd tîm misol, cynnal cyfarfodydd cymorth un-i-un, cynnig adborth i staff ar ôl pob sesiwn addysgu a rhoi cyfle i aelodau’r tîm gynnig eu mewnbwn eu hunain.

Manteisio’n llawn ar Ascent

Mae Lauren yn edrych ymlaen at fynychu digwyddiadau aelodau Ascent

Gan ei bod yn teimlo y bydd hyn yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau rheoli, rhannu syniadau arfer gorau gyda menywod eraill ac ennill mwy o hyder yn ei gallu ei hun.

A fyddai Lauren yn argymell Ascent i fenywod eraill?

Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn i Lauren, ac mae’n teimlo y byddai menywod eraill yn elwa arno hefyd. Roedd yn teimlo bod y rhaglen wedi ei helpu i ystyried ei rôl ei hun, gan ei hannog i wneud cais llwyddiannus am swydd reoli

Mae hefyd wedi ei helpu i ystyried ei chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn enwedig gan ei bod nawr yn gweithio’n llawn amser ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol.

‘Rhoddodd y Dyfarniad Arweinydd Tîm Lefel 2 yr hyder i mi wneud cais llwyddiannus am swydd fel Arweinydd Tîm,’ meddai Lauren. ‘Helpodd y cwrs fi i gydnabod fy nghryfderau a rhoddodd hyder i mi siarad am y cryfderau hyn yn fy nghyfweliad.’

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach