
Storiâu Llwyddiant ~ Kayley Perkins
"Bydd y sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth yr wyf wedi eu datblygu ar y cwrs Esgyniad yn profi yn werthfawr"
Graddiodd Kayley Perkins o Gastell Nedd a Phort Talbot o Brifysgol Morgannwg gyda gradd mewn Astudiaethau Plentyndod. Yn awyddus i ddatblygu ei gyrfa, cymrodd ran mewn hyfforddiant a oedd yn cael ei gynnig trwy brosiect Cenedl Hyblyg i hybu ei rhagolygon
Cafodd Kayley brofiad rheolaethol cynnar yn gweithio i raglen Datblygu Chwarae Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot, lle'r oedd yn rheoli 45 o weithwyr chwarae, yn goruchwylio'r cynllun a materion yn ymwneud â chyflogaeth
Yn awyddus i adeiladu ar ei sgiliau trefniadol ac arwain tîm, daeth Kayley yn gysylltiedig â’r prosiect Cenedl Hyblyg
O ganlyniad i’w hyfforddiant, mae Kayley wedi symud ymlaen yn ei gyrfa ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg prosiect newydd ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot.
Mae’n gyfrifol am ddatblygu gwefan sy’n gwella mynediad i wasanaethau teulu yn yr ardal leol.
Dywedodd Kayley:
“Mae fy rôl newydd yn cynnwys mynd mewn i’r gymuned leol a chasglu gwybodaeth ynglŷn â pha wasanaethau y mae teuluoedd lleol eisiau eu gweld. Bydd y sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth yr wyf wedi eu datblygu ar y cwrs Esgyniad yn profi yn werthfawr yn y rôl yma.”
Sut wnaethom ni helpu
Gweithiom gyda Kayley i roi'r hyder iddi nid yn unig i reoli ei llwyth gwaith ei hunan ond hefyd i reoli blaenoriaethau eraill
Mae Kayley nawr yn gyfrifol am arwain prosiect helaeth a fydd yn darparu cryn werth i’r gymuned leol
Dywedodd Sarah Richards, rheolydd prosiect rhanbarthol:
“Mae Kayley wedi gwneud cynnydd aruthrol yn ei gyrfa. Mae wedi gallu defnyddio ei sgiliau newydd ym mhob agwedd o’i rôl bresennol. Mae’n enghraifft o sut gall hyfforddiant eich helpu i gyrraedd y lefel nesaf yn eich gyrfa yn nhermau cyfrifoldebau ychwanegol a chyflawniad gyrfaol.”
Y buddion i Kayley a Chyngor Castell Nedd a Phort Talbot
Yn dilyn cwblhau'r rhaglen Esgyniad, roedd Kayley mewn safle i gymryd yr awenau ar brosiect newydd i’r cyngor, yn delio gyda theuluoedd lleol i sicrhau fod ganddynt amrywiaeth o weithgareddau yn y gymuned. Bydd Kayley yn gyfrifol am gynnal ymgynghoriaethau gyda theuluoedd a sicrhau fod y bas data ar lein newydd wedi ei deilwro ar gyfer anghenion y gymuned. Mae’r sgiliau a ddysgodd Kayley trwy Cenedl Hyblyg wedi ei chyfarparu i arwain y prosiect pwysig ar ran ei chyflogwr, ac mae’r ddau yn hyderus bod ganddi’r offer sydd eu hangen i gyflawni canlyniadau yn llwyddiannus.
Dywedodd Kayley:
“Mae yna lawer o gynllunio i’w wneud cyn gallwn lansio’r gwasanaeth ar lein newydd. Fy uchelgais i ydy ei wneud yn borth hawdd i’w ddefnyddio, yn galluogi teuluoedd i ddod o hyd i ddigwyddiadau a dosbarthiadau lleol y dymunant fod yn rhan ohonynt yn rhwydd a chyflym. Heb fy hyfforddiant gan Cenedl Hyblyg, ni fyddai gennyf yr hyder i ymgymryd â her fawr o’r fath.”
Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach

