Prosiect yn rhoi hwb i fyny’r ysgol yrfaol i fenywod sy’n gweithio
Cafodd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy’n helpu menywod dros Gymru gyfan ddringo’r ysgol yrfaol ymweliad yn ddiweddar gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb...
Fe wnaeth grŵp o 11 menyw, sydd wrthi’n gwella eu sgiliau trwy gwblhau cwrs Esgyniad Lefel 3 mewn rheolaeth llinell gyntaf, gyfarfod â’r Gweinidog yng Nghanolfan Gateway Tredomen, yn Ystrad Mynach.
Mae’r cwrs yn un o nifer o gynlluniau hyfforddi sy’n cael eu cynnig trwy brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhyw mewn cyflogaeth ac yn helpu menywod symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Mae’r prosiect gwerth £12.5m yn cael ei gyllido ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a nod Cenedl Hyblyg yw i daclo’r cymhlethdodau sy’n wynebu menywod yn y gweithle.
Trwy ddarparu hyfforddiant a mentora, bydd tua 2,800 o fenywod ym 15 rhanbarth yr ardal Cydgyfeirio yn derbyn y gefnogaeth sydd angen arnynt i gyflawni cyfleoedd cyflogaeth gyda sgiliau uwch a thâl uwch.
Mae hwn yn cynnwys 15 awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru ac ardaloedd y Cymoedd, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae Cenedl Hyblyg hefyd yn gweithio gyda dros 600 o gyflogwyr mewn hyfforddi, materion cydraddoldeb ac amrywioldeb, yn codi ymwybyddiaeth o’r buddion gweithio hyblyg, yn ogystal ag addysgu cyflogwyr am faterion cydbwyso bywyd a gwaith.
Fe wnaeth y Gweinidog gyfarfod menywod ar y rhan olaf o’u cwrs rhyngweithiol 6 diwrnod ar reolaeth llinell, sy’n eu galluogi i ddatblygu eu gallu rheolaeth a gwella eu sgiliau mewn meysydd megis cyfathrebu, datrys problemau, rheoli amser, yn arwain at wobr gydnabyddedig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Yn siarad gyda chyfranogwyr y cwrs am eu profiadau, dywedodd:
“Mae’n wych clywed adwaith mor bositif ynglŷn â llwyddiant Cenedl Hyblyg gan rai o’r menywod sy’n elwa’n uniongyrchol o’r hyfforddiant a’r gefnogaeth.
“Mae’r menywod yr wyf wedi eu cyfarfod heddiw wedi bod yn gwella eu sgiliau rheolaeth llinell, a fydd yn eu helpu i lwyddo wrth gyflawni eu potensial. Mae’r cwrs yn rhoi cam mawr ymlaen i’r menywod hyn fagu eu hyder, eu darparu gyda chyfleoedd na fyddent o bosib wedi eu cael er mwyn llwyddo yn y gwaith, i reoli eu cydbwysedd bywyd a gwaith a rhoi cefnogaeth well i’w teuluoedd.
“Mae darparu'r sgiliau ychwanegol hyn a’r hyder yn hanfodol er mwyn sicrhau fod gan Gymru'r gweithlu sydd ei hangen arni i godi’n gryfach o’r dirwasgiad.
“Mae’n bwysig fod anghenion cyflogwyr ddim yn cael eu hanwybyddu wrth i ni edrych tuag at weithlu mwy cydradd ar sail rhyw. Mae Cenedl Hyblyg yn gweithio yn galed i sicrhau fod cyflogwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen i helpu i leihau gwahaniad yn y farchnad lafur, a chynnig datrysiadau gweithio hyblyg i fenywod sy’n ymarferol ac effeithiol.”
Bydd y rhai hynny sy’n ennill gwobr Rheolaeth Llinell Lefel 3 ar y Rhaglen Esgyniad yn gallu cynyddu i gymwysterau pellach, gan gynnwys cymwysterau NVQ a gwobrau addysg uwch eraill.
Nodiadau
- Chwarae Teg yw’r brif asiantaeth broffesiynol ar gyfer datblygiad economaidd i fenywod yng Nghymru.
- Mae’r prosiect Cenedl Hyblyg wedi elwa o gyfanswm o £12.5m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Cronfa Cydgyfeirio. O hwn cafodd £4.2m ei gyllido trwy arian cyfatebol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
