Cymwysiadau iPhone/Ffurflen We ‘Womenspire’ 

Gwybodaeth

Datganiad Preifatrwydd a Chanllaw ar ddefnyddio

Defnyddio’r cymhwysiad iPhone/Ffurflen We i rhannu eich stori

Canllaw

Mae defnyddio’r cymhwysiad iPhone i rannu eich stori gyda ni yn hawdd ac uniongyrchol, a’r oll sydd ei angen arnoch yw i ychwanegu eich lleoliad cyffredinol, cyfeiriad e-bost dilys a’ch stori, ac yna pwyso anfon.  Byddwn yn derbyn eich stori yn syth trwy e-bost. Wedi derbyn byddwn yn ateb i’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi ei ddarparu yn cadarnhau eich manylion ynghyd â chopi o’ch stori..

Datganiad Preifatrwydd

Diolch am eich ymweliad ac am ddefnyddio’r cymhwysiad iPhone  ‘Womenspire’ i rannu eich storiâu ysbrydoledig gyda ni...

Bwriad y wybodaeth ganlynol yw i amlinellu sut bydd eich storiâu yn ymddangos ar http://www.twitter.com/womenspire, grŵp Facebook  'Womenspire'  a gwefan Cenedl Hyblyg.

Yn gyntaf, mae yna ddwy ffordd sut y gallwch rannu eich storiâu ysbrydoledig , trwy eich cymhwysiad iPhone App, a hefyd ar y we.

Byddwn yn defnyddio eich e-bost ar gyfer pwrpasau dilysu ac ni fyddwn yn cyhoeddi eich e-bost mewn unrhyw ffordd.  Nid oes rhaid i chi ddarparu eich enw neu eich enw iawn os dymunwch, a dimond lleoliad cyffredinol sydd ei angen.  Byddwn ond yn defnyddio eich e-bost i gysylltu gyda chi er mwyn: os oes rhaid i ni gadarnhau manylion yr ydych wedi eu darparu, ac i roi gwybod i chi pryd fydd eich stori yn cael ei gyhoeddi, os dymunwch weld eich stori neu wneud newidiadau iddi.  Hefyd, efallai y byddwn yn cysylltu gyda chi trwy e-bost er mwyn holi os yr hoffech ddarparu delwedd i gyd-fynd a’ch stori, os dymunwch ddarparu delwedd (graffeg neu lun) bydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’ch stori. Yn olaf, ni fyddwn chwaeth yn anfon eich manylion ymlaen at unrhyw 3ydd person.

Os ar unrhyw amser y dymunwch dynnu eich stori oddi ar ein gwefannau, yna e-bostiwch ni, ac mi wnawn ni ddiddymu’r stori.  Wrth wneud hyn byddwn hefyd yn dileu eich cyfeiriad e-bost a’ch enw o’n cofnodion mewn modd diogel.  Ni fyddwn byth yn argraffu eich cyfeiriad e-bost, dimond cadw eich manylion ar ffurf electronig o fewn amgylchedd diogel ac y bydd mynediad i fanylion o’r fath yn gyfyngedig i ychydig iawn o aelodau o staff y prosiect Cenedl Hyblyg.