Helping to make Remote Working work
for your business
3 Ffyrdd y Gallwn ni Helpu
Mae yna dair ffordd y gallwn ni helpu eich busnes i
fabwysiadu ac elwa o weithio o bell:
1 TechnolegYn gweithio yn uniongyrchol gyda’n Rheolydd Prosiect TGCh byddwn yn eich helpu i adnabod yr anghenion technoleg sydd eu hangen ar eich busnes wrth fabwysiadu gweithio o bell. Mae’n bwysig nodi bod ein gwasanaeth yn ddiduedd a’n cyngor yn seiliedig ar anghenion penodol eich busnes. |
||
2 Polisi a PhrosesDim ond rhan o’r ateb yw cael y dechnoleg gywir ar gyfer gweithio o bell ac mae ein cymorth hefyd ar gael i’ch helpu i ddatblygu'r polisïau perthnasol i gefnogi'r defnydd effeithiol o weithio o bell yn eich busnes. Gall y rhain gynnwys: TG Defnydd Teg, Diogelwch TG, Adferiad Data ac Iechyd a Diogelwch. Gall cyngor pellach hefyd gael ei ddarparu i helpu gyda rheolaeth effeithiol gweithwyr sy’n gweithio o bell. |
||
3 AriannolGall y prosiect Cenedl Hyblyg ddarparu cymorth ariannol i nifer fechan o fusnesau a menywod i helpu gyda gweithredu a mabwysiadu gweithio o bell. Nodwch fod y cymorth hwn yn seiliedig ar feini prawf cymhwysedd, a gellir cael gwybodaeth bellach gan y Rheolydd Prosiect TGCh. |
||
Pan fyddwch yn penderfynu cyflwyno gweithio o bell i’ch busnes rhaid ystyried nifer o agweddau i sicrhau ei weithredu yn llwyddiannus ac effeithiol
Mae’r ystyriaethau hyn yn cynnwys penderfyniadau yngl^yn â’r dechnoleg gywir i’w defnyddio a datblygu polisïau i sicrhau fod gweithio o bell yn gweithio i gefnogi eich busnes, yn ogystal â darparu buddion cydbwyso bywyd a gwaith gwerthfawr i’r gweithwyr.
Fel rhan o’r prosiect Cenedl Hyblyg, gall busnesau sydd wedi eu lleoli yn yr ardal Cydgyfeirio* gael mynediad i gefnogaeth arbenigol, ddiduedd er mwyn helpu i weithredu’r arferion gweithio o bell.
Eich camau nesaf
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad i’r gefnogaeth hon, yn gyntaf bydd rhaid i chi fod yn gyfranogwr ar ein Rhaglen Esblygu sy’n rhad ac am ddim. I gofrestru cysylltwch ag un o’r swyddfeydd rhanbarthol isod:
Gogledd Cymru, Ffôn: 01492 514237
De Orllewin Cymru, Ffôn: 01554 770612
De Ddwyrain Cymru Ffôn 01443 824410
Os ydych eisoes yn cyfranogwr ar ein Rhaglen Esblygu, ac yn dymuno dechrau gwneud gweithio o bell weithio i’ch busnes, cysylltwch â’r Uwch Swyddog Prosiect neu’r swyddfa ranbarthol berthnasol.
Fe wnânt wirio eich cymhwyster, a threfnu cyfarfod i chi a’r Rheolydd Prosiect TGCh a fydd yn trafod eich anghenion gyda chi cyn paratoi Cynllun Gwaith Gweithio o Bell.
Bydd hwn yn cael ei ddatblygu yn benodol ar gyfer eich busnes ac y bydd yn amlinellu'r broses dechnegol a’r gefnogaeth ariannol y gallwn ei ddarparu ar eich cyfer. Pan fyddwch wedi cytuno’r cynllun, bydd y Rheolydd Prosiect TGCh yn gweithio gyda chi wrth helpu i sicrhau'r cyflwyniad effeithiol ac amserol o’ch Cynllun Prosiect Gweithio o Bell.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gefnogaeth y gall Cenedl Hyblyg ei gynnig ar gyfer TGCh Gweithio o Bell yna e-bostiwch eich Rheolydd Prosiect TGCh - carl.williams@chwaraeteg.com |
||

