
Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi amrywioldeb ar frig eu hagenda
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno â’r arbenigwyr cydraddoldeb Chwarae Teg i daclo’r diffyg cynrychiolaeth sydd o fenywod a grwpiau ethnig mewn adrannau arbenigol o fewn yr heddlu
Mae’r heddlu wedi bod yn gweithio gyda Chwarae Teg fel rhan o brosiect Cenedl Hyblyg gwerth £12.5m ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n anelu i symud rôl menywod ymlaen yn y gweithle trwy daclo anghydraddoldeb
Daeth 20 cynrychiolydd ar draws holl adrannau'r heddlu ynghyd mewn gweithdy a gynhaliwyd ar faes tanio arfau’r heddlu yn Rhuthun i drafod y rhesymau pam nad oes cynrychiolaeth ddigonol gan rai grwpiau mewn adrannau arbenigol megis arfau tanio a thrin cŵng.
Dywedodd Swyddog Amrywioldeb Heddlu Gogledd Cymru, Sue Davidson:
“Rydym eisiau chwalu’r myth fod yr adran arfau tanio yn amgylchedd gwrywaidd sy’n anghymwynasgar i heddferched. Mae’n bwysig fod menywod a phobl o leiafrifoedd ethnig yn deall fod yna gyfloedd gyrfaol gwerthfawr ar gael i bawb o fewn yr heddlu mewn nifer o feysydd eang a’n bod yn weithgar wrth geisio cael y neges allan.
“Mae yna gamsyniadau cyffredinol fod angen i bersonél sy’n delio ag arfau tanio fod yn gorfforol ffit iawn ac yn gorfod gweithio oriau anghymdeithasol, sy’n gallu atal staff sydd â chyfrifoldebau gofal er enghraifft rhag ymgeisio. Mewn gwirionedd, rydym yn cyflogi pobl gyda gwahanol lefelau ffitrwydd ac yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i alluogi swyddogion i gyflawni eu rolau. Mae ein gweithwyr yn dod mewn pob siâp a maint a gallwn wneud newidiadau ymarferol i’r arfau tanio wrth gadw hynny mewn ystyriaeth.
“Galluogodd y gweithdy ni i sefydlu beth yw’r camsyniadau a’r bariau sy’n bodoli ymysg ymgeiswyr potensial. Bydd y wybodaeth angenrheidiol yn ein helpu i gryfhau ein proses recriwtio a sicrhau fod gennym weithlu amrywiol a chynrychiadol.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o’r 600 o gyflogwyr y mae prosiect Cenedl Hyblyg yn gweithio gyda hwy, yn cynnig cyngor ar faterion amrywioldeb a chodi ymwybyddiaeth o fuddion busnes gweithio’n hyblyg
Dywedodd Debbie Bowe, yng Ngogledd Cymru:
“Mae gweithdai rhyngweithiol fel hyn yn hanfodol ar gyfer adnabod a thaclo materion cydraddoldeb.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru bob amser wedi bod yn weithgar wrth daclo anghydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiad. Wrth annog staff i gael sgyrsiau agored ar stereoteipio ac archwilio atebion mae’r heddlu yn gwneud camau mawr at sicrhau fod eu hunedau arbenigol yn dod yn opsiwn gyrfaol mwy deniadol ar gyfer grwpiau lleiafrifol."
Yn y cyfryngau: Darllenwch yr erthygl ar safwe Daily Post
![]()
Cyhoeddwyd ar: 23/09/2010

