
Storiâu Llwyddiant ~ Hayley Romain
"Roeddwn i’n hoff o elfen ymarferol yr hyfforddiant"
Roedd Hayley Romain o Ruddlan wedi bod yn gweithio fel Cydgysylltydd Dysgu a Datblygu gyda Gyrfa Cymru yn y Gogledd Ddwyrain am ddwy flynedd pan glywodd am y prosiect Cenedl Hyblyg am y tro cyntaf.
Aeth Hayley i ddigwyddiad yn Llanelwy a oedd yn rhoi gwybodaeth am y prosiect Cenedl Hyblyg, a phenderfynodd gofrestru ar y rhaglen Esgyniad gyda’r nod o ddatblygu ei sgiliau rheoli.
Dywedodd Hayley:
“Roeddwn i’n hoff o elfen ymarferol yr hyfforddiant ac roedd modd i mi ganolbwyntio go iawn ar fy natblygiad personol am y tro cyntaf. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio a chyfarfod pobl eraill o fusnesau y tu allan i Gyrfa Cymru, a dyma’r tro cyntaf i mi gael cyfle go iawn i wneud hyn.”
Roedd Hayley wedi ystyried swydd reoli sawl gwaith, ond oherwydd diffyg hyder ac arbenigedd roedd wedi penderfynu peidio ag ymgeisio am swyddi uwch. Ysbrydolwyd Hayley i wella ei sgiliau ei hun a chystadlu am swyddi uwch o weld cyfeillion a chyd-weithwyr yn ymgeisio am ddyrchafiadau yn y gwaith.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Esgyniad, llwyddodd Hayley i gael swydd arweinydd prosiect rhan-amser. Mae ei chyfrifoldebau newydd yn cynnwys gweithio ar brosiectau rheoli yn enwedig mewn perthynas â datblygiad proffesiynol staff a chynorthwyo cleientiaid ag anawsterau ac anableddau dysgu.
Sut y gwnaethom ni helpu:
Buom yn gweithio gyda Hayley er mwyn ei helpu i sylweddoli bod ganddi nifer o sgiliau trosglwyddadwy a magu hyder.
Yn ôl Susie Ventris-Field, Uwch Swyddog Prosiect:
“Roedd gan Hayley gyfoeth o sgiliau eisoes a oedd yn berthnasol i waith rheoli, a llwyddodd i ddysgu a mabwysiadu dulliau rheoli newydd yn gyflym iawn.
“Wrth i’r cwrs fynd rhagddo, dechreuodd Hayley fagu hyder a brwdfrydedd i fynd ati i gael hyfforddiant pellach. Er mwyn ychwanegu at ddatblygiad ei gyrfa, penderfynodd Hayley ddilyn NVQ Lefel 4 mewn Dysgu a Datblygu a chwblhau ei Dyfarniad Aseswyr A1.
“Mae’n frwdfrydig ac ymroddgar iawn gyda’i hastudiaethau ac yn barod i dderbyn syniadau newydd – mae’n fenyw sy’n ysbrydoli.”
Dywedodd Hayley:
“Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddysgu erioed. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, roeddwn i’n teimlo fod gen i fwy i’w gynnig i gyflogwr. O ganlyniad, cefais gynnig swydd arweinydd prosiect, sy’n golygu fy mod yn gallu defnyddio fy sgiliau rheoli newydd.”

