
Womenspire ~ Rhannu Ysbrydoliaeth
Hayley Parsons OBE
Sylfaenwr/Prif Weithredwr o GoCompare.com
‘Rwy’n cael fy ysbrydoliaeth o weld eraill yn llwyddo’
“Rwy’n cael fy ysbrydoliaeth o weld pobl yr wyf yn gweithio gyda hwy yn gwella a llwyddo yn eu rolau.
I ysbrydoli fy hun, rwy’n gosod nodau a thargedau i mi eu cyflawni ac rwy’n cael cyffro mawr pan rwyf yn llwyddo i’w cyflawni hwy. Er enghraifft pan roeddwn yn ifancach dywedais wrth fy hun o fewn ychydig flynyddoedd y buaswn yn berchen ar BMW coch, rwyf ar hyn o bryd ar fy nhrydydd a fy nod nesaf yw i fod yn berchen ar Maserati gwyn. Yn fy ngyrfa, mae yna nifer o bobl sydd wedi fy ysbrydoli.
Mae David Stephens, Prif Weithredydd Admiral Insurance wedi bod yn ysbrydoliaeth, nid yn unig oherwydd ei fod yn llwyddiannus dros ben ond hefyd y mae’n berson cynnes a’i draed ar y ddaear. Mae Peter Wood, sylfaenydd e-sure a Sheila’s Wheels hefyd wedi fy helpu yn aruthrol yn fy ngyrfa.
Roedd ganddo ddigon o grêd yn fy musnes i fuddsoddi £30 miliwn ac mae wedi bod yn gefnogaeth fawr i mi ers hynny.
Er bod gennyf ffocws pendant yn fy musnes a’i weld yn llwyddo, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr amser yr wyf yn ei gael i ymlacio gyda fy mab a’m mhartner. Rwy’n ceisio fy ngorau i beidio gweithio ar benwythnosau fel bod gennyf ddigon o amser ar gyfer picnic a theithiau beic gyda fy nheulu.”

