Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Gwobrau Free2Network

Enwebwch rywun ar gyfer Gwobrau Free2Network Gogledd Cymru 

Sefydliad rhwydweithio annibynnol cenedlaethol i fusnesau yw Free2Network. Fe’i sefydlwyd gan Nina Sardar ac mae’n darparu cymorth busnes a chyfleoedd rhwydweithio i weithwyr proffesiynol mewn mwy na 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn. Mae’n gweithio’n bennaf yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond mae’n bwriadu ehangu i bob cwr o’r DU

Dydd Gwener 14 Hydref bydd Seremoni Wobrwyo gyntaf Free2Network yn cael ei chynnal yn y Quay Hotel yn Neganwy gyda’r nod o gydnabod a dathlu cyraeddiadau busnesau ac unigolion ledled y gogledd.

Cefnogir gwobr Menyw Fusnes y Flwyddyn gan Brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg ac os ydych chi’n byw/gweithio yn y gogledd, mae’n bryd i chi ddechrau enwebu.

Dyma’r rhestr lawn o gategorïau’r gwobrau:
  • Menyw Fusnes y Flwyddyn
  • Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
  • Gwobr Gwydnwch mewn Busnes
  • Dyn Busnes y Flwyddyn
  • Cyflogwr Graddedigion y Flwyddyn – Gogledd Cymru
  • Busnes Bach y Flwyddyn
  • Arweinydd y Flwyddyn
  • Unigolyn Rhwydweithio’r Flwyddyn
  • Busnes y Flwyddyn


Cyhoeddwyd ar: 12/8/2011