Gwisgo i Lwyddo
Digwyddiad aelodau De Orllewin Cymru
Cynhaliodd tîm Cenedl Hyblyg y De-orllewin ddigwyddiad “Gwisgo i Lwyddo!” ar 20 Medi 2011
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn i aelodau, a oedd yn dangos i fenywod sut i wisgo i lwyddo, yn yr Ice House yn Abertawe a denodd 42 o aelodau rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg.
Cafwyd cyflwyniad 2 awr gan Sue Smart, ymgynghorydd ar gyfer Positively Smart yng Nghaerdydd, a chyflwyniad 15 munud gan un o’n cyfranwyr, Karen Williams.
Y digwyddiad hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i aelodau am ddim a drefnir gan dîm Cenedl Hyblyg.
Mae’r digwyddiadau poblogaidd hyn yn ffordd anffurfiol wych o helpu ein cyfranwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.
Ddysgu mwy am raglen Esgyniad Cenedl Hyblyg i fenywod
![]()
Cyhoeddwyd ar: 20/9/2011

