Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Ffeithiau allweddol ar gyfer busnesau

Deddf Cydraddoldeb 2010

Cyflwyniad

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli nifer o gyfreithiau gwahanol. Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn deall y Ddeddf er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol

Nod y Ddeddf yw atal triniaeth annheg yn y gweithle a chefnogi cyfle cyfartal llawn yn y gweithle ac yn y gymdeithas.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhan o gyfres o Daflenni ffeithiau Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ceisio egluro pwysigrwydd y Ddeddf ac yn nodi rhai o’r newidiadau allweddol ar gyfer cyflogwyr.

Pam y mae’r Ddeddf yn bwysig?

Mae cydymffurfio â’r Ddeddf yn ofyniad statudol i fusnesau, ond mae hefyd yn gyfle iddynt ystyried sut y gall busnesau elwa’n fasnachol yn sgil amrywiaeth a chydraddoldeb.

Ffeithiau Allweddol am y Ddeddf Cydraddoldeb

  • Mae’r Ddeddf wedi disodli’r amrywiol ddeddfau gwrthwahaniaethu blaenorol gydag un deddf sengl
  • Y nod yw symleiddio’r gyfraith a’i gwneud yn haws cydymffurfio â hi
  • Mae’r Ddeddf yn cynnwys 9 nodwedd a ddiogelir:

» Oedran
» Anabledd
» Ailbennu rhywedd
» Priodas a phartneriaeth sifil
» Beichiogrwydd a mamolaeth
» Hil
» Crefydd neu gredo
» Rhyw
» Cyfeiriadedd rhywiol

  • Ni ellir defnyddio’r nodweddion hyn i drin pobl yn annheg
  • Mae gan bawb o leiaf 1 nodwedd neu fwy a ddiogelir
  • Mae’r Ddeddf yn cwmpasu gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, aflonyddu, erlid a gwrthod cyflawni addasiadau rhesymol
  • Mae’n diogelu staff yn erbyn aflonyddu gan gwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau
  • Mae’n diogelu pawb sy’n gofalu am rywun sydd â nodwedd a ddiogelir

Sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio â’r Ddeddf

Gallwch wneud sawl peth i sicrhau bod eich busnes yn
cydymffurfio â’r Ddeddf:
  • Llwyr ddeall goblygiadau Deddf Cydraddoldeb 2010 o safbwynt staff, cwsmeriaid, cyflenwyr ac arferion recriwtio
  • Adolygu neu ddatblygu strategaeth amrywiaeth a chydraddoldeb sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf. Bydd hyn yn dangos yn glir eich ymrwymiad i weithle teg a chyfartal. Bydd yn helpu eich gweithwyr cyflogedig i ddeall beth yw ymddygiad derbyniol a beth sy’n annerbyniol. Wrth gynnwys y strategaeth ar eich gwefan, bydd eich cwsmeriaid a’ch darpar weithwyr cyflogedig yn eich ystyried yn sefydliad da i wneud busnes ag ef
  • Sicrhau bod eich holl staff yn deall y Ddeddf a sut mae’n berthnasol iddynt
 
 

Y manteision i fusnesau

Y ffordd resymegol o weithredu’r ddeddf yw trwy ddatblygu strategaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth

Gall strategaeth o’r fath sydd wedi’i datblygu’n briodol gynnig
rhai o’r manteision canlynol:

  Cynyddu cynhyrchiant
  Gwella cymhelliant a theyrngarwch staff
  Creu cronfa ehangach o dalent wrth gyflogi staff
  Gwella enw da’r busnes
  Become an employer of choice

 
   
 
 

Camau Nesaf

Ffoniwch Chwarae Teg ar 01443 824410 i weld os yw’ch
busnes yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol llawn ein
Rhaglen Esblygu i Fusnesau
 
   
 
 
Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r dudalen hon Cliciwch yma i lawrlwytho y dudalen hon fel PDF