Modiwlau Opsiynol
Gweithdy Rheoli Cydbwysedd Bywyd a Gwaith a Gweithio Hyblyg
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
Mae byd gwaith yn newid ac mae mwy o gyflogwyr yn cydnabod y buddion busnes o
weithio mewn ffyrdd newydd mwy hyblyg. Mae angen sgiliau newydd ar arweinyddion tîm
a rheolwyr i ddeall a chefnogi gweithio hyblyg o fewn eu timoedd. P’run ai eich bod yn
gweithio mewn gweithle hyblyg yn barod ac eisiau gwella eich technegau rheoli, neu eisiau ystyried ffyrdd o wella cydbwyso bywyd a gwaith ar gyfer eich hunan a’ch tîm, yna bydd y gweithdy hwn o fudd i chi.
Pwrpas y Gweithdy
Mae’r gweithdy yn darparu arweinyddion tîm a rheolwyr llinell gyntaf gyda’r wybodaeth â’r
ymwybyddiaeth bersonol sydd ei angen i reoli timoedd yn llwyddiannus mewn gweithle
hyblyg.
Bydd gweithio hyblyg a chydbwyso bywyd a gwaith yn cael ei archwilio mewn perthynas â
rheolaeth pobl dda. Bydd y gweithdy yn archwilio ystod eang o opsiynau gweithio hyblyg,
yn dangos sut fod hyblygrwydd yn gallu helpu i gyrraedd anghenion y cwsmeriaid,
sefydliadau a’r gweithwyr.
Bydd cyfranogwyr yn deall sut i ddefnyddio egwyddorion o arfer gorau mewn cydbwyso
bywyd a gwaith a gweithio hyblyg, i’w hunan yn ogystal â’r timoedd y maent yn eu harwain.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r gweithdy ar gyfer menywod sy’n gyfranogwyr i’r prosiect Cenedl Hyblyg ac wedi
cwblhau hyfforddiant y Rhaglen Esgyniad ac eisiau parhau i ddatblygu eu sgiliau a’u gallu i reoli timoedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r pynciau hyn.
Buddion y Gweithdy
Trwy fynychu’r gweithdy byddwch yn:
Deall beth a olygir gan gydbwyso bywyd a gwaith
Deall modelau gwahanol o weithio hyblyg
Dysgu sut i ddatblygu cynnig ar gyfer cyflwyno gweithio hyblyg
Ennill y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer rheoli timoedd yn llwyddiannus mewn
gweithle hyblyg

