Gwaith partneriaeth trawswladol
Mae gweithgarwch trawswladol yn cael ei ystyried yn ffordd o gyfoethogi cronfa wybodaeth Chwarae Teg a meincnodi cynnydd y sefydliad a Chymru o gymharu ag Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd
Mae strategaeth ‘Ewrop 2020’ yn atgyfnerthu’r angen am economi fwy cynhwysol
Dylid rhannu’r wybodaeth a’r arbenigedd a gesglir o’r prosiect Cenedl Hyblyg yn drawswladol er mwyn i Aelod-wladwriaethau eraill ystyried mabwysiadu rhai o’r mentrau yn eu gwledydd eu hunain. Cânt eu hannog i rannu eu harbenigedd mewn meysydd lle mae angen i Gymru ddatblygu.
Yn ogystal â’r broses ddysgu ddwyochrog, bydd prosiect Chwarae Teg yn codi proffil Cymru yn Ewrop fel gwlad flaengar ac arloesol ym maes cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio hyblyg
Mae Cynllun Adnewyddu’r Economi 2010 ar gyfer Cymru yn canolbwyntio ar seilwaith o ansawdd uchel a sicrhau cysylltiadau da, er mwyn helpu ein busnesau i ‘ffynnu’n gynaliadwy’, ehangu’r gronfa sgiliau a symud tuag at ‘economi sy’n seiliedig ar wybodaeth’.
Felly, mae gweithgarwch trawswladol yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn chwaraewr allweddol yn Ewrop a bod ei chynnydd yn cael ei gydnabod. Mae gan Chwarae Teg brofiad helaeth ym maes gwaith trawswladol ar ôl cydweithio â phartneriaid tramor drwy fentrau Ewropeaidd amrywiol, naill ai fel corff arweiniol, mewn partneriaeth neu fel ymgynghorwyr.
Mae’r gwledydd y mae Chwarae Teg wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol yn cynnwys: Awstria, Sweden, Y Ffindir, Y Lapdir, Sbaen ac Iwerddon. Mae’r wybodaeth a gafwyd o weithio mewn partneriaeth wedi bod yn amhrisiadwy i’n datblygiad ac wedi helpu i godi proffil Cymru yn Ewrop; rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno yn y blynyddoedd nesaf.
Mae cynllun trawswladol ar waith ar hyn o bryd i: nodi Aelod-wladwriaethau Ewropeaidd sy’n gweithio ym maes gwahanu galwedigaethol a pholisi sy’n ystyriol o deuluoedd ac i nodi’r math o weithgarwch trawswladol a fyddai fwyaf buddiol i’r prosiect. Bydd manylion pellach yn dilyn yn fuan.

