X

Gyda’n harweiniad a’n cefnogaeth barhaol, bydd y rhai hynny sy’n ennill y Wobr Lefel 2 yn medru cwblhau modiwlau hyfforddiant pellach ar y rhaglen Esgyniad

Esgyniad Lefel 2 ~ Arwain Tîm

Dod yn Arweinydd Tîm

Os hoffech chi ddod yn arweinydd tîm a datblygu eich gwybodaeth am reolaeth, neu yn syml ennill cydnabyddiaeth ffurfiol am swydd yr ydych eisoes ynddi, gall ein Gwobr mewn Arwain Tîm Lefel 2 helpu

Yn ogystal ag ennill gwobr gydnabyddedig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, (ILM), Bydd Gwobr Lefel 2 yn eich darparu gyda chynllun datblygu gyrfaol  a rhoi i chi’r sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, gan gynnwys:

  • rheoli eich hun a’ch amser
  • datblygu a chynnal y tîm gwaith
  • ysgogi eich hunan ac eraill
  • cyfathrebu yn y gweithle
  • pendantrwydd
  • rheoli straen a’ch cydbwysedd bywyd a gwaith
  • amrywioldeb yn y gweithle
Cwrs Astudio

Gyda chefnogaeth diwtorial lawn, byddwch yn mynychu cwrs 5 diwrnod llawn gwybodaeth a rhyngweithiol

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal mewn lleoliad hygyrch, fel arfer o fewn yr oriau 9.30am a 4.30pm, a bydd eich cyfranogiad yn cael ei gyllido’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru heb unrhyw gost i chi.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol

Ble nesaf?

Gyda’n harweiniad a’n cefnogaeth barhaol, bydd y rhai hynny sy’n ennill y Wobr Lefel 2 yn medru cwblhau modiwlau hyfforddiant pellach ar y rhaglen Esgyniad, ymuno â’r rhaglen Esgyniad ar Ddatblygu a Mentora, ac yna symud ymlaen i ddarparwyr hyfforddiant eraill ar gyfer cymwysterau pellach - megis cymwysterau NVQ mewn Rheolaeth.

Lawrlwythwch y llyfryn EsblyguLinc

Ydych chi’n barod am Esgyniad? Eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Cysylltwch â niLinc

Cenedl Hyblyg yn eich ardal

I sicrhau ein bod yn cyflawni'r prosiect Cenedl Hyblyg yn effeithiol ar draws Cymru, mae gennym dimoedd wedi eu lleoli ar draws y wlad.  I weld sut y gallwn eich helpu cysylltwch â ni 

Line

Mae Chwarae Teg Cenedl Hyblyg yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru