
Esgyniad Lefel 3 ~ Rheolaeth Llinell Gyntaf
Dod yn Reolydd Llinell Gyntaf
Os hoffech ddod yn reolydd llinell gyntaf a datblygu eich gwybodaeth am reolaeth, neu yn syml ennill cydnabyddiaeth ffurfiol am swydd yr ydych eisoes ynddi, gall ein Gwobr mewn Rheolaeth Llinell Gyntaf Lefel 3 helpu
Yn ogystal ag ennill gwobr gydnabyddedig gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, (ILM), Bydd Gwobr Lefel 3 yn eich darparu gyda chynllun datblygu gyrfaol a rhoi i chi’r sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, gan gynnwys:
- rheoli eich hun a’ch amser
- datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- deall sut fod timoedd yn cael eu ffurfio
- ysgogi eich hunan ac eraill
- cyfathrebu yn y gweithle
- yn briffio a gwneud cyflwyniadau
- datrys gwrthdaro
- pendantrwydd
- rheoli straen a’ch cydbwysedd bywyd a gwaith
- amrywioldeb yn y gweithle
Cwrs Astudio
Gyda chefnogaeth diwtorial lawn, byddwch yn mynychu cwrs 5 diwrnod llawn gwybodaeth a rhyngweithiol
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal mewn lleoliad hygyrch, fel arfer o fewn yr oriau 9.30am a 4.30pm, a bydd eich cyfranogiad yn cael ei gyllido’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru heb unrhyw gost i chi.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol
Ble nesaf?
Gyda’n harweiniad a’n cefnogaeth barhaol, bydd y rhai hynny sy’n ennill y Wobr Lefel 3 yn medru cwblhau modiwlau hyfforddiant pellach ar y rhaglen Esgyniad, ymuno a’r rhaglen Esgyniad ar Ddatblygu a Mentora, ac yna symud ymlaen i ddarparwyr hyfforddiant eraill ar gyfer cymwysterau pellach - megis cymwysterau NVQ mewn Rheolaeth.
Lawrlwythwch y llyfryn Esblygu
Ydych chi’n barod am Esgyniad? Eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?
Cysylltwch â ni
Cenedl Hyblyg yn eich ardal
I sicrhau ein bod yn cyflawni'r prosiect Cenedl Hyblyg yn effeithiol ar draws Cymru, mae gennym dimoedd wedi eu lleoli ar draws y wlad. I weld sut y gallwn eich helpu cysylltwch â ni
![]()
Mae Chwarae Teg Cenedl Hyblyg yn cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru

