Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Entrepreneur Patchwork yn rhannu ei phrofiad â phrosiect Cenedl Hyblyg

Ddydd Mercher 10 Awst 2011 yng Ngwesty Carreg Môn ym Mhorthaethwy, bu Margaret Carter, sylfaenydd Patchwork Foods, yn rhannu ei hanes â chyfranogwyr y rhaglen Esgyniad

Mae stori Margaret yn llawn ysbrydoliaeth. Ym 1982, ar ôl ysgaru, a chyda thri phlentyn i’w magu, dechreuodd Margaret wneud pâtê yn ei chegin a’i werthu i dafarndai yn Llangollen a’r cyffiniau

Cymaint oedd llwyddiant pâté cartref Margaret nes iddi symud ym 1987 i adeilad pwrpasol yn Rhuthun ac mae’n cyflogi 30 o bobl ar hyn o bryd. Er bod cyfanswm y pâté a gynhyrchir wedi cynyddu’n aruthrol, mae’r cyfan yn cael ei wneud â llaw o hyd gan ddilyn ryseitiau gwreiddiol Margaret a heb ddefnyddio cadwolion artiffisial.

Cafodd y 25 a oedd yn bresennol gyfle i flasu samplau o pâté enwog Margaret cyn ei chyflwyniad a oedd yn seiliedig ar ei phrofiadau go iawn ac yn pwysleisio’r angen i fod yn benderfynol, a wynebu’ch ofnau ar brydiau

Er enghraifft: eglurodd Margaret fod mynd allan i werthu ei pâté yn codi ofn arni weithiau, ond yn y pen draw, roedd hi’n gwybod mai’r unig beth i’w wneud oedd gorfodi ei hun i fynd allan a chnocio ar ddrysau a dechrau gwerthu.

Un  gair o gyngor gwirioneddol bwysig a gafwyd gan Margaret oedd pwysigrwydd gofalu amdanoch chi eich hun. Er bod hyn yn swnio’n amlwg, yn aml, os ydych chi’n gofalu am deulu, mae’n ddigon hawdd anghofio gwneud hyn. Trwy ofalu amdanoch chi eich hun, byddwch yn y cyflwr gorau i berfformio’n well yn y gwaith a rheoli’r heriau anochel a ddaw i’ch rhan bob dydd.

Trefnwyd y digwyddiad hynod lwyddiannus hwn gan dîm Cenedl Hyblyg y Gogledd ac mae’n ddiolchgar iawn i Margaret Carter am gytuno i roi cyflwyniad. Y gobaith yw y bydd yn cael effaith hirdymor a chadarnhaol ar y cyfranogwyr Cenedl Hyblyg a oedd yn bresennol.

Os hoffech wybod mwy am Patchwork, ewch i wefan y cwmni:
patchwork-pate.co.uk


Cyhoeddwyd ar: 10/8/2011