Ydych chi'n gallu'n helpu trwy roi ychydig o adborth ar ein gwefan os gwelwch yn dda? – Dim ond munud neu ddau o'ch amser fydd ei angen.
Redirecting to survey....
X

Dorcas Cox - Roedd dychwelyd i ddysgu ar ôl 40 o flynyddoedd yn frawychus ond roedd gennyf lawer o gefnogaeth ac anogaeth gan fy mentor

Storiâu Llwyddiant ~ Dorcas Cox

Diolch i gymryd rhan yn rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg mae Dorcas yn ei geiriau ei hun yn “fenyw newydd” ac yn jyglo gofynion rôl rheoli llawn amser prysur yn effeithiol

Gadawodd Dorcas Cox, yn wreiddiol o Rhymni, yr ysgol ym 1968 yn 18 oed.  Bedwar degawd yn ddiweddarach dychwelodd i astudio er mwyn adnewyddu a gwella ei sgiliau, ac wedi gweld ei hyder yn tyfu o ganlyniad

Wedi deng mlynedd allan o waith yn magu ei phlant, gweithiodd Dorcas fel ysgrifenyddes mewn cwmni cyfreithwyr ym Merthyr Tydfil cyn derbyn swydd Uwch Ysgrifenyddes/Rheolydd Llinell gyda Phartneriaeth Gwyn George ddeng mlynedd yn ôl.   

Mae ei dyletswyddau yn cynnwys darparu cefnogaeth i ddeg cyfreithiwr prysur, delio gyda galwadau ac ymholiadau a rheoli rhediad dydd i ddydd y swyddfa a’r holl waith gweinyddol sy’n gysylltiedig â hynny.

Er ei bod yn hapus yn ei swydd, roedd Dorcas weithiau yn teimlo bod y gofynion anghyson ar ei hamser wrth i’r cwmni dyfu yn gallu bod yn drech arni. Ei her fwyaf oedd rheoli ei hamser ei hun, brwydrodd gyda blaenoriaethu ei llwyth gwaith a oedd, o ganlyniad, yn lesteiriol i’w hyder.

Dywedodd Dorcas:

“Roedd gweithio mewn swyddfa brysur, yn darparu cefnogaeth i lawer o bobl wahanol yn gosod straen anferth ar fy amser.  Nid oedd gen i’r hyder i ddweud wrth bobl nad oeddwn yn gallu cwblhau eu gwaith yn syth ac yn aml iawn roedd hyn yn golygu fod gennyf bentwr enfawr o lwyth gwaith.  Weithiau nid oeddwn yn gwybod lle i ddechrau.”

Sut y gwnaethom ni helpu

Ers ymuno â’r rhaglen Esgyniad mae Dorcas wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill Gwobr Arwain Tîm Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac yn mynychu ein digwyddiadau rhad ac am ddim i aelodau er mwyn gallu helpu i barhau ar ei thaith datblygu yn anffurfiol

Dechreuodd y buddion i Dorcas pan anogodd ei chyflogwr hi i gymryd rhan yn rhaglen Esgyniad Cenedl Hyblyg

Mae’r rhan yma o’r prosiect wedi ei gynllunio i helpu unigolion wella eu sgiliau arweinyddiaeth a threfniadol.  Mae’r prosiect hefyd yn helpu i wella hyder a sgiliau cyfathrebu.

Ychwanegodd Dorcas:

"Roedd dychwelyd i ddysgu ar ôl 40 o flynyddoedd yn frawychus ond roedd gennyf lawer o gefnogaeth ac anogaeth gan fy mentor.  Roedd maint y dosbarthiadau yn weddol fychan, a oedd yn ei wneud yn haws i ddechrau trafodaethau defnyddiol a rhannu heriau ac atebion i faterion yn y gweithle.  Rwy’n teimlo fel menyw newydd yn nhermau fy hyder ac yn barod i ymgymryd â heriau newydd.”

“Cyn i mi gwblhau’r cwrs, roeddwn yn eistedd mewn cyfarfodydd tîm heb gyfrannu yn iawn hyd yn oed os oedd gennyf rywbeth dilys i ddweud.  Helpodd y cwrs fi i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth sydd wedi fy ngwthio i wneud cyfraniadau cadarnhaol mewn cyfarfodydd a fy ngwneud i sylweddoli y gallaf ychwanegu gwerth i’r ffordd y mae’r busnes yn gweithredu.”

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach