X

Donna Davies - Mae’r rhaglen Esgyniad wedi fy helpu i ddeall y dulliau gwahanol o gyfathrebu yn y gweithle

Storiâu Llwyddiant ~ Donna Davies

Prosiect Cenedl Hyblyg yn Prysuro Gyrfa Menyw o Aberdâr

Mae Donna Davies o Aberdâr wedi cael ei dyrchafu’n ddiweddar i fod yn arweinydd cylch ar gyfer Cylch Meithrin Penrhiwceibr

Mae ei dyrchafiad yn dilyn magu hyder yn y gweithle o ganlyniad i gwblhau rhaglen Esgyniad sy’n cael ei redeg fel rhan o brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg

Mae dyrchafiad Donna yn dangos gwaith ardderchog y tîm Cenedl Hyblyg a’r buddion i fenywod yng Nghymru o gymryd rhan yn y rhaglen Esgyniad, sy’n rhan o brosiect blaenllaw Chwarae Teg, gwerth £12.5m, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyn cymryd rhan yn y rhaglen, roedd Donna yn teimlo bod ei diffyg hyder a dau o blant bach yn ei hatal rhag symud ymlaen yn ei gyrfa.

Dywedodd Elin Davies, Uwch Swyddog Prosiect ar gyfer Cenedl Hyblyg ar dîm De Cymru:

“Fel y brif asiantaeth ar gyfer datblygiad economaidd i fenywod yng Nghymru, byddwn yn gweithio gyda 2,790 o fenywod a 600 o gyflogwyr i annog datblygiad a chynnal a chadw menywod yn y gweithle yn ystod hyd oes y prosiect.  

“Roedd yn ysbrydoledig i weld hyder Donna yn tyfu wrth iddi symud trwy’r  rhaglen Esgyniad, ac rwy’n ymhyfrydu yn y ffaith fod y prosiect wedi gallu ei chynorthwyo i ennill y dyrchafiad diweddar.

“Mae Donna yn profi nad yw bod yn fam brysur yn rhwystr wrth symud i fyny yn y gweithle a gall trechu eich ofnau fod yn fuddiol yn y pen draw.”

Wrth gwblhau’r cwrs yn gynharach eleni, esboniodd Donna ei bod yn teimlo yn llawer mwy hyderus yn ei galluoedd a bod hon yn ffactor allweddol yn ei phenderfyniad i ymgeisio am y dyrchafiad yng Nghylch Meithrin Penrhiwceibr.

Dywedodd:

“Mae’r rhaglen Esgyniad wedi fy helpu i ddeall y dulliau gwahanol o gyfathrebu yn y gweithle a sut i ddefnyddio amcanion ‘smart’ i reoli eich amser yn effeithiol.  

“Diolch i raglen Esgyniad y prosiect Cenedl Hyblyg rwyf wedi magu hyder ac yn teimlo y gallaf gyflawni fy nodau.  Rwy’n edrych ymlaen at fy her newydd pan fydd y cylch meithrin yn agor ym mis Medi.”

Hyd yn oed cyn i’w dyrchafiad ddigwydd, mae Donna eisoes wedi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol ar gyfer hyrwyddo a threfnu diwrnod agored y cylch meithrin newydd. Ychwanegodd Donna:

“Fe gynorthwyodd y cwrs i mi adnabod fy mas sgiliau yn gyfan gwbl a gwerthfawrogi beth yr wyf yn ei gyflawni yn ddyddiol, sydd wedi fy ngwneud i deimlo yn fwy hyderus wrth reoli fy amser rhwng gwaith ac ymrwymiadau teuluol.”

Datglowch eich Potensial yn y Gweithle: gwybodaeth pellach 

Yn y cyfryngau: Darllenwch yr erthygl ar safwe Cynon Valley Leader