X

Cyflogwr sy'n Hyblyg

Dod yn gyflogwr hyblyg

Bydd arferion gweithio hyblyg yn helpu eich busnesau i fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon ac i ganolbwyntio mwy ar gwsmeriaid

Bydd gweithwyr yn elwa ar gael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith a gallwch chi elwa ar gael llai o drosiant staff a llai o absenoldebau

Mae gweithio hyblyg yn ymwneud â sut, lle a phryd rydym ni’n gweithio. Pan fo hyn yn cael ei gyflwyno a’i reoli’n briodol, gall gyflwyno manteision di-ri i’r busnes ac i’r bobl sy’n gweithio yno

Rydym yn deall y gallai fod yn anodd gwybod pa fathau o ddulliau gweithio hyblyg fyddai’n addas i’ch busnes, neu sut i reoli ceisiadau i weithio’n hyblyg. Rhaid i’ch rheolwyr hefyd wybod sut i reoli perfformiad timau hyblyg a thimau gweithio o bell.

Os yw hynny’n briodol i’ch sefydliad, gallwn:
  • eich helpu i nodi pa ddulliau gweithio hyblyg fyddai’n gweithio orau yn eich sefydliad
  • cynnal arolygon staff ynglŷn â gweithio hyblyg a chydbwysedd bywyd a gwaith
  • eich helpu i ddatblygu polisïau pwrpasol sy’n gweithio i’ch busnes arbennig chi
  • dangos i chi sut i wneud mwy na dim ond cydymffurfio â’r gyfraith a defnyddio arferion gorau wrth weithio’n hyblyg a sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith
  • eich helpu i gynnwys gweithio hyblyg yn eich amcanion cynaliadwyedd amgylcheddol
  • cynnal cynlluniau peilot er mwyn rhoi cynnig ar ddulliau gwaith newydd yn eich cwmni
  • eich helpu chi i ddeall y fframwaith cyfreithiol cyfredol a chyflwyno system i reoli ceisiadau i weithio’n hyblyg