X

Beth yw Diwrnod Ewrop?

Efallai eich bod wedi dod ar draws cyfeiriad yn eich dyddiadur neu rywle arall at y ffaith fod 9 Mai yn “Ddiwrnod Ewrop” ac wedi holi ynghylch ei arwyddocâd

Ar 9 Mai 1950 cymerwyd y cam cyntaf tuag at greu beth sydd heddiw yn cael ei adnabod fel yr Undeb Ewropeaidd

Ym Mharis ar y diwrnod hwnnw, gyda bygythiad o Drydydd Rhyfel Byd yn llyncu Ewrop gyfan, fe ddarllenodd Gweinidog Tramor Ffrainc, Robert Schuman, ddatganiad i’r wasg ryngwladol yn galw ar Ffrainc, yr Almaen a gwledydd Ewropeaidd eraill i gasglu eu cynhyrchiad glo a dur ynghyd fel “y sylfaen cadarn cyntaf o ffederasiwn Ewropeaidd”.

Yr hyn yr oedd yn ei gynnig oedd creu Sefydliad Ewropeaidd cydwladol, a fyddai’n gyfrifol am y diwydiant glo a dur, y sector a oedd, bryd hynny, yn sylfaen i holl bŵer milwrol. Roedd y gwledydd hynny a oedd yn cael eu galw mwy neu lai wedi dinistrio ei gilydd mewn gwrthdaro gwael a oedd wedi gadael teimlad o anghyfanedd-dra materol a moesol.

Dechreuodd pob dim, felly, y diwrnod hwnnw.  Dyna pam penderfynwyd yn ystod uwchgynhadledd arweinwyr yr UE ym Milan ym 1985 i ddathlu 9 Mai fel “Diwrnod Ewrop”.

Mae pob gwlad sy’n dewis ymuno a’r Undeb Ewropeaidd yn ddemocratig yn cefnogi ei gwerthoedd sylfaenol o heddwch ac undod.

Mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu dangos trwy ddatblygiad economaidd a chymdeithasol yn cofleidio dimensiynau amgylcheddol a rhanbarthol sydd yn warantiad o safon byw weddus i bob dinesydd.

Tra bod Ewrop wedi bodoli ers canrifoedd, mae’r elfennau sydd yn eu huno, yn absenoldeb rheolau a sefydliadau, wedi bod yn annigonol yn y gorffennol i atal y trasiedïau mwyaf erchyll rhag digwydd.

Ni fydd integreiddio Ewrop yn digwydd mewn diwrnod neu mewn ychydig ddegawdau. Mae llawer iawn o ddiffygion yn dal i fodoli ac amherffeithiolrwydd yn amlwg.  Mae’r prosiect a gychwynnodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn dal yn newydd.  Yn y gorffennol, roedd ymdrechion ar uno Ewrop wedi bod yn seiliedig ar un grŵp yn llywodraethu dros grŵp arall.  Ni allai’r ymdrechion yma lwyddo, achos fod gan y rhai hynny a oedd wedi cael eu gorchfygu un deheuad: sef ail ennill eu rhyddid.

Mae uchelgais heddiw yn hollol wahanol: I adeiladu Ewrop sy’n parchu rhyddid a hunaniaeth yr holl bobl sy’n rhan ohoni. Dim ond trwy uno ei phobl gall Ewrop reoli meistrolaeth ei thynged a datblygu rôl bositif yn y byd.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwasanaethu ei dinasyddion.  Wrth gadw eu gwerthoedd, arferion ac ieithoedd arbennig eu hunan, dylai dinasyddion Ewrop deimlo’n gartrefol yn eu “cartref Ewropeaidd”.

Source: europa.eu

Beth yr ydym ni yn ei wneud i ddathlu?

Fel prosiect sy’n cael ei chyllido gan Ewrop rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn ein bod yn nodi Diwrnod Ewrop a hyrwyddo ei gwerthoedd mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws ardal y prosiect

Yn ogystal â dathlu'r diwrnod trwy ein gwefan, dyma rai ffyrdd y byddwn yn dathlu ar draws Cymru

Yn Ne Ddwyrain Cymru rydym wedi trefnu i nodi Diwrnod Ewrop trwy gynnal trafodaethau yn ystod ein cyrsiau gwahanol trwy gydol yr wythnos a thrwy sicrhau fod lluniaeth y cyrsiau â naws Ewropeaidd.

Yng Ngogledd Cymru byddwn yn sicrhau fod ein cynrychiolyddion ar ein cyrsiau Agor y Drws yn hollol ymwybodol o bwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd trwy eu croesawu mewn 27 iaith wahanol a thrwy ddarparu brecwast cyfandirol.

Yn Ne Orllewin Cymru byddwn yn hyrwyddo Diwrnod Ewrop ar gyrsiau sy’n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, yn hyrwyddo trafodaeth trwy ddeunydd hyrwyddo i ddod a’r neges gartref.