Prosiect Cenedl Hyblyg ~ Digwyddiadau
blaenorol i aelodau
Digwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd ar gyfer cyfranogwyr y prosiect
2012
Y Gweithdy Esblygu
15 Mai
Lleoliad: Deganwy Quay, Llandudno, Gogledd Cymru
Gweithdy undydd am ddim - Archwilio manteision mabwysiadu strategaeth amrywiaeth, deall effaith y Ddeddf Gydraddoldeb newydd
![]()
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
1 Chwefror
Lleoliad: Gwesty Quay, Deganwy, Llandudno
Mae’r gweithdy yn darparu arweinyddion tîm a rheolwyr llinell gyntaf gyda’r wybodaeth â’r ymwybyddiaeth bersonol sydd ei angen i reoli timoedd yn llwyddiannus mewn gweithle hyblyg
![]()
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
7 Chwefror
Lleoliad: Tongwynlais, Caerdydd
Mae angen sgiliau newydd ar arweinyddion tîm a rheolwyr i ddeall a chefnogi gweithio hyblyg o fewn eu timoedd
![]()
Dirprwyo
15 Chwefror
Lleoliad: Gwesty Legacy, Tongwynlais
The topic will be assertiveness and delegation
![]()
Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
1 Mawrth
Lleoliad: Pen-y-Bont ar Ogwr
Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywioldeb yn y Gweithle
![]()
Prawf Bag Llaw
8 Mawrth
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
I ddathlu ein 20fed Pen-blwydd a Diwrnod Rhyngwladol Menywod. Sut mae eich steil yn adlewyrchu’ch personoliaeth? A ydych chi’n gwneud y gorau o’ch natur unigryw chi?
![]()
Digwyddiad ar gyfer Aelodau a Seremoni Wobrwyo ar gyfer Cyfranogwr
14 Mawrth
Lleoliad: Gwesty Quay, Deganwy, Llandudno, Gogledd Cymru
Digwyddiad ar gyfer cyfranogwyr a gwblhaodd Lefel 2 mewn Arwain Tîm, a Lefel 3 mewn Rheolaeth Llinell. Dathlu llwyddiant ein cyfranogwr. Gweithdy ar sgiliau cyfweliad. Siaradwr Gwadd, Ffion Llwyd Jones, 'FLJ Media' yn bresennol i rannu ei phrofiadau o ddechrau a rhedeg ei busnes ei hun
![]()
2011
Pendantrwydd
31 Ionawr
Lleoliad: Swyddfa De Ddwyrain Cymru, Trefforest
Gwella’ch hyder trwy fod yn fwy pendant a chadarn
![]()
Pendantrwydd
8 Chwefror
Lleoliad: Meadows Golf Club, Cwmbran, Gwent
Gwella’ch hyder trwy fod yn fwy pendant a chadarn
![]()
Seremoni Wobrwyo Nos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Dathlu’ch Cyraeddiadau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
8 Mawrth
Lleoliad: Gwesty Cei Deganwy, Conwy
Seremoni wobrwyo cyfranogwyr a oedd yn cynnwys siaradwr ysbrydoledig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a’i thema eleni sef ‘Dathliad o Lwyddiannau Menywod dros y 100 mlynedd diwethaf’. Mynychwyd gan Marina Kogan, Hyfforddwraig ac Ymarferydd NLP Proffesiynol ymhlith eraill.
![]()
Pendantrwydd a magu hyder
3, 28 a 30 Mawrth
Lleoliad: Aberafan, Charlie’s Café Bar, Abertawe; Gwesty’r Hotel, Caerfyrddin
Cyflwyniad dynamig gyda syniadau ymarferol ar sut i ddylanwadu ar bobl a chael canlyniadau cynaliadwy.
![]()
Digwyddiad y farchnad i’r aelodau
29 Mawrth
Lleoliad: Canolfan QED Trefforest
Bydd amryw o ddarparwyr hyfforddiant wrth law i roi gwybodaeth i fenywod am gyrsiau a darparwyr hyfforddiant
![]()
Sesiwn magu hyder ac Araith Ysbrydoledig
5 Ebrill
Lleoliad: Gwesty’r Fictoria, Porthaethwy
Roedd y noson yn cynnwys araith ysbrydoledig gan Rukhsana Nugent (Enillydd gwobr y Person Mwyaf Ysbrydoledig ac wedi’i henwi yn un o’r arwyr cymunedol gorau yng Nghymru), sesiwn ar fagu hyder ac, fel arfer, bwffe a lluniaeth ar ôl cyrraedd
![]()
Gwireddu’ch Breuddwydion
14 Ebrill
Lleoliad: Gwesty’r Marriot, Abertawe
Hwyluswyd y diwrnod gan Angie Darlington, hyfforddwraig iechyd a lles medrus gyda dwy flynedd ar bymtheg o brofiad o weithio gyda menywod i gyflawni’u potensial llawn
![]()
Creu delwedd effeithiol
10 Mai
Lleoliad: Palladium Training Ystrad Mynach
Nod y gweithdy byr hwn yw deall y gwahanol fathau o bersonoliaethau, a sut mae hyn yn effeithio ar y modd rydym yn rhyngweithio ag eraill
![]()
Gweithdy sgiliau cyfweliad
2 Mehefin
Lleoliad: Machynys Golf Academy, Llanelli
Mae’r farchnad lafur yn newid yn gyson. Mae’r ffordd yr ydym yn mynd ati i chwilio am waith wedi newid, mae disgrifiadau swyddi’n newid, ond un peth sy’n parhau i fod yr un fath, fwy neu lai, yw’r cyfweliad am swydd!
![]()
Darganfod cyfrinachau marchnata llwyddiannus
22 Mehefin
Venue: Swyddfa De Ddwyrain Cymru Trefforestt
Gweithdy ymarferol, o gynllunio llyfryn i wefan, ysgrifennu llythyron, negeseuon e-bost a hysbysebion, i reoli’r cyfryngau cymdeithasol
![]()
Pendantrwydd
30 Mehefin
Lleoliad: Machynys Golf Academy, Llanelli
Gwella’ch hyder trwy fod yn fwy pendant a chadarn
![]()
Rheoli sgyrsiau anodd
20 Gorffennaf
Lleoliad: Coleg Morgannwg
Gweithdy i’ch helpu i ddysgu sgiliau er mwyn rhoi adborth yn effeithiol ac ymdrin yn hyderus â llu o sefyllfaoedd ac ymatebion
![]()
Araith Ysbrydoledig a Gweithgaredd ar Bendantrwydd
10 Awst
Lleoliad: Gwesty Carreg Môn, Llanfair PG
Rhannodd Margaret Carter, sylfaenydd Patchwork Foods ei stori gyda menywod y Rhaglen Esgyniad
![]()
Gwisgo i Lwyddo
20 Medi
Lleoliad: The Ice House, Ffordd y Brenin, Abertawe
Dewch i adnabod siâp eich corff, deall pa liwiau sy’n gweddu i chi a chael eglurhad o’r cod gwisg smart/anffurfiol
![]()
Ysgogi’ch hun i Lwyddo
26 Medi
Lleoliad: Canolfan Gynhadledd y QED, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest
Roedd y gweithdy hwn wedi’i gynllunio i bobl a oedd naill ai wedi symud i weithio ym maes rheoli’n ddiweddar neu ar fin gwneud hynny
![]()
Dechrau busnes eich hun ~ gweithdy am ddim i Fenywod
12 Hydref - 3 Tachwedd
Lleoliad: Ledled y Gogledd a’r De
Cynhaliwyd y gweithdy hwn i fenywod a oedd am wireddu’r freuddwyd o fod yn hunangyflogedig. Nodwch: Roedd y digwyddiad hwn ar agor i’r cyhoedd
![]()
Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Gweithle
20 Hydref
Lleoliad: Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae gallu deall a gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle’n sgil rheoli allweddol ac yn hanfodol i adeiladu tîm llwyddiannus
![]()
Gweithdy Sgiliau Cyfweliad ‘Loose Women’
8 Tachwedd
Lleoliad: Gwesty Rhyngwladol Legacy Caerdydd, Tongwynlais
Daeth panel o fenywod o wahanol sectorau recriwtio ynghyd i rannu eu gwybodaeth, eu profiadau a’u syniadau am sut i lwyddo mewn cyfweliad
![]()
Ffair Aeaf Cenedl Hyblyg Chwarae Teg ~ Llanelli
16 Tachwedd
Lleoliad: Gwesty’r Diplomat, Llanelli
Y Ffair Aeaf – cyfle gwych i gwrdd â chyd-aelodau o’r prosiect a staff y prosiect
![]()
Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
16 Tachwedd
Lleoliad: Machynys Golf Academy, Llanelli
Cyfle delfrydol i chi fel Aelod Esgyniad i adeiladu eich portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus a dod yn gyfarwydd â'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010
![]()
Digwyddiad Aelodau a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol
7 Rhagfyr
Lleoliad: Gwesty'r Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Chwarae Teg, yn cynnwys y newyddion diweddaraf gan y Cadeirydd Debbie Green a’r Prif Weithredwr Katy Chamberlain ar flaenoriaethau ac effaith Chwarae Teg. Y grefft o greu cysylltiadau da Sesiwn llawn gwybodaeth yng nghwmni’r arbenigwr rhwydweithio Bernie Jackson
![]()
2010
Beth rydych chi ei eisiau a sut i’w gael!
26 Ionawr
Lleoliad: Good Health Café, Lôn Jackson, Caerfyrddin
Cafwyd cyflwyniad ar “Beth rydych chi ei eisiau a sut i’w gael!" gan yr Uwch-swyddog Prosiect, Kay Hughes. Roedd yn noson llawn hwyl a roddodd gyfle i bawb a fynychodd gyfarfod â phobl eraill ar y prosiect a chael cymorth i gymryd y camau nesaf i ddatblygu’ch syniadau
![]()
Gweithdy hyder ~ camau i deimlo’n hyderus
2 Mawrth
Lleoliad: Yr Interchange, Hen Golwyn, Bae Colwyn
Yn y gweithdy, cynorthwywyd y menywod i fagu hyder ac i ddatblygu dull cam wrth gam o ennill mwy o hyder yn y gwaith. Siaradwr gwadd: Julie Foster, Pennaeth Gweinyddu Cyfiawnder
![]()
Technegau meithrin pendantrwydd ar gyfer Canlyniadau sy’n fuddiol i bawb
13 Ebrill
Lleoliad: Technium Cast ym Mharc Menai, Bangor
Cyflwynodd Krista Powell Edwards – Prif ymgynghorydd yr Ymgynghoriaeth Hyfforddi a Datblygu, Humanistics Solutions, sesiwn blas ar ei Thechneg ar gyfer Dangos Pendantrwydd er mwyn cyflawni Canlyniadau sy’n fuddiol i bawb
![]()
Gwell nag o’r blaen ~ Dangos eich Pendantrwydd
13 Mai
Lleoliad: Gwesty Plas Hyfryd, Arberth
Cyflwynodd Kay Hughes ganllaw i’r syniadau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fagu hyder, lleisio’ch barn a sefyll ben ac ysgwyddau’n uwch na’r gweddill
![]()
Rhwydweithio hawdd
29 Mehefin
Lleoliad: Yr Interchange, Hen Golwyn, Bae Colwyn
Cyflwynodd y siaradwr gwadd, Ruth Lloyd Williams, sylfaenydd Network She, gefndir y cylchgrawn Network She, a chafwyd sesiwn Rhwydweithio Hawdd gan Tracy Lloyd Williams a Susie Ventris-Field o Chwarae Teg.
![]()
Deallusrwydd emosiynol
19 Gorffennaf
Lleoliad: Canolfan Menter y Cymoedd, Abercynon
Dysgu sut i adnabod eich deallusrwydd emosiynol eich hun yn y gweithle a deall ymateb eich cydweithwyr
![]()
Gwella hunanhyder ac ymwybyddiaeth
23 Medi
Lleoliad: Canolfan Porth Tredomen, Ystrad Mynach
Bydd y gweithdy hwn yn trafod sut i ddatblygu’ch hyder a goresgyn y rhwystrau anweledig hynny sy’n eich dal yn ôl
![]()
Cyflwyniad i roi cyflwyniadau
13 Hydref
Lleoliad: Gwesty’r Llew Du, Llanbedr Pont Steffan
Mae’n bleser gan dîm Cenedl Hyblyg eich gwahodd i’n Digwyddiad nesaf i Aelodau, a fydd yn cynnwys ein siaradwr gwadd, Mair O’Connor, a fydd yn rhoi sgwrs anffurfiol ar “Gyflwyniad i roi Cyflwyniadau”
![]()
Noson Adloniadol Menywod Ysbrydoledig mewn Busnes
19 Hydref
Lleoliad: Y Deganwy Quay
Noson ysbrydoledig yng nghwmni’r perchennog gwesty enwog, Stephanie Booth, a sesiynau blas ar folddawnsio gyda Dawn Roberts
![]()
Y byd cyfrifiadurol a TGCh datblygiadol
6 Tachwedd
Lleoliad: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Roedd W-Tech Cymru’n ddiwrnod llawn sgyrsiau a seminarau diddorol a chyfleoedd i rwydweithio a gynlluniwyd i annog, ysbrydoli ac ysgogi menywod o bob oed, gan gynnwys merched ifanc, i ystyried o ddifrif y llu o gyfleoedd gyrfaol amrywiol sydd ar gael iddynt yn y byd cyfrifiadurol a TGCh
![]()
Gwisgo i lwyddo ~ creu’r ddelwedd gywir
24 Tachwedd
Lleoliad: Coleg Morgannwg
Anghofiwch am Gok Wan – dyma weithdy i’ch helpu i ddewis y dillad mwyaf addas siâp eich corff, denu sylw a chreu’r argraff iawn

